Sut i wneud cais?
Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n bwriadu gweithredu yng Ngwynedd yn unig, neu mewn sawl ardal Awdurdod Lleol. Bydd pob ardal yn penderfynu’n annibynnol a ydynt am gefnogi cais neu beidio.
Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr - bydd angen i bob prosiect ddod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024. O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Cyngor Gwynedd yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ymgeisio am o leiaf £250,000 o arian UKSPF - mae'r Cyngor yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i’r afael ag un, neu fwy, o’r 53 ymyriadau ar
Rhaid i’r prosiectau hefyd gyflawni un neu fwy o'r allbynnau a'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
Yn ogystal â dangos aliniad â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ei hun, mae’n rhaid i brosiectau sy’ yn ceisio cymorth yng Ngwynedd helpu i wireddu strategaethau a blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
Mae'r strategaethau a chynlluniau perthnasol yng Ngwynedd yn cynnwys (dim yn rhestr gyflawn):
Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngwynedd yn dilyn proses dau gam. Bydd pob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dilyn trefn debyg:
Cam 1 : cyflwyno cais prosiect amlinellol
Cam 2 : cyflwyno cais prosiect manwl
Uchelgais Gogledd Cymru | Cronfa Ffyniant Gyffredin
Bydd Cyngor Gwynedd yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.
Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2.
Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau amlinellol cam 1 fydd:
- Bydd y cais yn cael ei werthuso gan dîm Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd.
- Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
- Bydd Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i Gyngor Gwynedd.
- Cyngor Gwynedd yn penderfynu pa brosiectau dylid eu cefnogi.
- Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
- Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2.
Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau manwl cam 2 fydd:
- Asesiadau pellach a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
- Cyngor Gwynedd yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais.
- Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Cyngor Gwynedd.
Bydd Cyngor Gwynedd yn anelu i gwblhau gwerthuso a dewis ceisiadau amlinellol cam 1 sydd wedi eu cyflwyno cyn hanner dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 erbyn diwedd Mawrth 2023.
Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi’r Cyngor i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:
Hysbysiad preifatrwydd
Yn ôl i brif dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin