Cronfeydd Datblygu Busnes
Mae’r gronfa yma bellach wedi ymrwymo yn llawn.
Rydym yn falch o allu adrodd fod pob cais bellach wedi ei asesu a’n bod yn y camau olaf o benderfynu pa gynlluniau dylid eu cefnogi. Mae cyfanswm y gofyn am gymorth dros £9 miliwn gyda dim ond £2 miliwn ar gael. Mae’n anorfod felly y bydd y mwyafrif o ymgeiswyr yn cael eu siomi ac bydd nifer mawr o gynlluniau haeddiannol na allwn eu cefnogi.
I glywed am unrhyw gyfleoedd ariannu yn y dyfodol, tanysgrifiwch i'r Bwletin Cymorth Busnes
Close
Mae’r Gronfeydd Datblygu Busnes, a gefnogir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd ac Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru yn gynllun i gefnogi busnesau Gwynedd adfer a datblygu, sefydlogi a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Y nod yw galluogi busnesau i gynyddu elw unai trwy arbedion neu gynyddu incwm.
Mae dwy gronfa o fewn yr Gronfeydd Datblygu Busnes.
- Cronfa Sbarduno - Cefnogi grantiau o £2,500 i £25,000
- Cronfa Trawsffurfio – Cefnogi grantiau o £25,001 i £250,000
Mae’r gronfa yn cynnig cymorth o hyd at 70% o gyfanswm y costau cymwys nodwyd o fewn y cais. Felly, bydd yn ofynnol i unrhyw gais fod ar sail o leiaf £3,570 o gostau cymwys.
Pwy all wneud cais?
Gall busnesau bach neu ganolig o Wynedd gyflwyno cais am arian o’r Gronfeydd Datblygu Busnes. Gallent fod yn fusnesau newydd neu'n rhai wedi sefydlu ers tro.
Gweler canllawiau Canllawiau Sbarduno a Canllawiau Trawsffurfio i weld os ydych yn gymwys.
Gwneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau oedd 29 Medi 2023.
Bydd grantiau Cronfa Sbarduno yn cael eu dyfarnu ar sail cyntaf-i’r-felin. Rhaid i’ch cais fod yn gyflawn cyn y byddwn yn ystyried ei fod wedi’i gyflwyno.
Cronfa Trawsffurfio - Rhaid i ni dderbyn eich cais erbyn dydd Gwener 29 Medi 2023. Byddwn wedyn yn asesu’ch cais a bydd gennych chi dim mwy na wythnos i ddarparu unrhyw wybodaeth goll. Cyn belled â’ch bod wedi darparu’r holl wybodaeth mewn pryd, byddem yn asesu ceisiadau o 6 Hydref 2023, gan geisio rhoi ateb i chi o fewn 8 wythnos.
Rydym yn rhagweld y bydd y cronfeydd yn boblogaidd ac na fydd yn bosib i ni gefnogi pob cais.
Bydd rhaid i bob prosiect fod wedi ei gwblhau a'i hawlio cyn 30 Medi 2024.
Prif Ddogfennau