Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn weithredol tan Mawrth 2025 ac yn buddsoddi £4.8 biliwn ar draws y DU.
Mae’r gronfa yn cyllido prosiectau cyfalaf mawr a bydd yn cefnogi:
- adfywio canol trefi a’r stryd fawr (hyd at £20 miliwn)
- asedau diwylliannol a threftadaeth (hyd at £20 miliwn)
- prosiectau trafnidiaeth leol (hyd at £50 miliwn)
Dim ond awdurdodau lleol all gyflwyno cais i’r Gronfa
Gall ardaloedd cyflwyno un cais ar gyfer pob Etholaeth Seneddol o fewn eu ffiniau ac un cais trafnidiaeth leol. Gall Cyngor Gwynedd felly gyflwyno hyd at dri chais.
Cynhaliwyd rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn 2021. Nid oedd unrhyw geisiadau o Wynedd yn llwyddiannus.
Cyflwynodd Cyngor Gwynedd 3 cais i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro mis Awst 2022.
- Bywiogi Bangor – pecyn o gynlluniau yn cynnwys datblygiad Canolfan Iechyd a Lles, gwelliannau amgylcheddol i Bae Hirael, gwella cysylltedd oddi fewn i’r Ddinas a gwedd gyntaf o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Cynllun yn cyplysu ymyraethau yn gysylltiedig a iechyd a lles tra yn adfywio canol y ddinas.
- Coridor Gwyrdd Ardudwy - pecyn yn cynnwys adeiladu ffordd newydd i osgoi pentref Llanbedr, chreu mynediad newydd i’r maes awyr presennol yn ogystal â chyflwyno gwelliannau ehangach i’r ddarpariaeth cerdded a beicio, safleoedd bws a gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd coridor y A496 yn ardal Ardudwy
- Llewyrch o’r Llechi 2023 – Pecyn o gynlluniau ar draws 3 o gymunedau y dyffrynnoedd llechi Gwynedd sydd yn adnabod cyfleon i uchafu ar y buddion i’r gymuned leol a’r economi yn sgil dynodiad Safle Treftadaeth y Byd yn ôl yn 2021. Cynllun sydd yn cynnig cyfleoedd a datblygiadau sydd yn cyfrannu tuag at adfywio y cymunedau hyn. Pecyn penodol yn canolbwyntio ar gynlluniau yn Ogwen, Peris a Ffestiniog.
Bu i Lywodraeth Prydain yn Ionawr gyhoeddi’r cynlluniau llwyddiannus ar gyfer ail rownd Cronfa Ffyniant Bro. Derbyniwyd cadarnhad fod Llewyrch o’r Llechi yn llwyddiannus gyda buddsoddiad o £18.8m drwy Gronfa Ffyniant Bro tuag at becyn cyflawn werth tua £27m.
Mwy o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Bro