Perchennog busnes yng Ngwynedd yn ennill gwobr glodfawr
Mae perchennog busnes lleol yn mwynhau llwyddiant dwbl eleni. Yn ogystal â nodi 15 mlynedd o fasnachu ym mis Tachwedd, mae Angharad Gwyn o Adra hefyd yn dathlu ennill y wobr am Fusnes Digidol / E-Fasnach y Flwyddyn yng ngwobrau Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) Cymru ym mis Ebrill.
Sefydlwyd Adra ym mis Tachwedd 2007 ac, ers hynny, mae’r busnes wedi hyrwyddo gwneuthurwyr a chynhyrchwyr Cymreig, gan werthu eu cynnyrch Cymreig unigryw drwy wefan Angharad, www.adrahome.com ac yn ei siop ffisegol ym Mharc Glynllifon.
Arferai Angharad fod yn uwch gynhyrchydd gwefan i’r BBC, ond gadawodd Gaerdydd yn 2007 i ddychwelyd i’w hardal enedigol yng ngogledd Cymru. Yna penderfynodd ddechrau ei busnes, wedi ei hysbrydoli gan ei hangerdd am dalent creadigol Cymreig a photensial e-fasnach i roi hwb i’r economi.
Ond nid yw ymgeisio am wobrau busnes yn rhywbeth mae Angharad yn ei wneud fel arfer, fel y mae hi ei hun yn egluro:
“Ceisiais am y wobr gan fy mod i wedi ymuno â’r FSB y llynedd, ac oherwydd fod Adra wedi goroesi cyfnod heriol yn llwyddiannus iawn. Yn anaml iawn y byddaf yn ymgeisio am wobrau, ond fel perchnogion busnes rydan ni’n gweithio’n galed iawn i gadw’n busnes yn llewyrchus – felly rydan ni’n haeddu cydnabyddiaeth o bryd i’w gilydd!”
Cyhoeddwyd buddugoliaeth FSB Adra mewn seremoni yn Ngwesty St David’s yng Nghaerydd ar yr 8fed o Ebrill. Cyflwynwyd y gwobrau i fusnesau Cymreig mewn deuddeg categori, gyda’r trefnwyr yn dweud bod y nifer fwyaf erioed o geisiadau wedi dod i law y flwyddyn hon – gan ddangos dyfalbarhad, creadigrwydd, ac arloesedd busnesau bach Cymru.
Dywedodd y beirniaid y gellir priodoli llwyddiant Adra i fuddsoddiad parhaus Angharad mewn datblygiadau e-fasnach, yn cynnwys y penderfyniad, yn 2020, i fabwysiadu dull aml-sianel i werthu – gan arwain i gynnydd o 68% mewn trosiant.
Mae’r perfformiad ac optimeiddiad ar-lein ar draws gwefan a chyfryngau cymdeithasol Adra wedi arwain at dwf rhyfeddol mewn refeniw, a golygai hyn fod Adra yn sefyll allan yn y gystadleuaeth.
Mae cynlluniau Angharad ar gyfer 2022 yn cynnwys dathlu penblwydd y cwmni’n 15 oed. “Rydan ni’n falch i ddychwelyd i’n stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol,” meddai, gan ychwanegu y bydd gostyngiad arbennig yn cael ei gynnig i gwsmeriaid yn ogystal ag anrheg arbennig yn nes ymlaen yn y flwyddyn.