Technoleg newydd a chynnydd mewn gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn helpu un o atyniadau poblogaidd Eryri i ddarparu gwell profiad archebu wedi i'r cyfnod clo lacio
Mae un atyniad poblogaidd yn Eryri wedi mabwysiadu technoleg newydd i helpu i reoli archebion yn fwy effeithlon a chyda phrofiad llyfnach ar gyfer eu cwsmeriaid, ar ôl adnabod bod ‘archebu o flaen llaw’ yn arfer fydd gyda ni am y dyfodol rhagweladwy.
Roedd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, sy’n cynnal teithiau trên stêm hanesyddol a darluniadwy rhwng Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, yn wynebu’r dilema cyfarwydd erbyn hyn o sut i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel wedi i’r cyfnod clo ddechrau llacio.
Yn flaenorol, gallai teithwyr ddringo ar ac oddi-ar y trenau heb archebu ticed o flaen llaw.
Ond ers i’r cyfnodau clo ddechrau llacio, ac i atyniadau allu dechrau ailagor, mae angen llawer mwy o gynllunio – gan gwsmeriaid a gan ddarparwyr gwasanaeth.
Roedd gan Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri system dicedu ar-lein eisioes ond roeddent yn teimlo fod cwsmeriaid yn gweld y system braidd yn anhylaw i’w defnyddio. Wedi gwneud ychydig o ymchwil daethant ar draws FareHarbor, gwasanaeth sy’n ymgorffori archebion gyda Profi Olrhain Diogelu ac yn galluogi Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri i werthu cynnyrch megis arweinlyfrau a hamperi yn ogystal â’u galluogi i negeseuo cwsmeriaid ar y cyd.
Drwy gydol y cyfnod clo a thu hwnt, roedd Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri’n parhau i fod â phresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn eu cynorthwyo i gadw’r atyniad yng nghof ymwelwyr nes ei fod yn ddiogel i ailagor. Gan ddefnyddio Facebook, Instagram a Twitter, roedd yr atyniad yn dal i ymgysylltu â’u dilynwyr trwy rannu ffotograffau o’r rheilffordd drwy’r tymhorau a rhoi diweddariadau ar ddatblygiadau y tu ôl i’r llenni.
A thrwy eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, roedd Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri hefyd yn gallu cynnal apêl lwyddiannus i helpu i dalu eu costau pan na allai’r atyniad weithredu yn ystod y cyfnod clo.
Derbyniodd Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri gyhoeddusrwydd ychwanegol (a derbyniol iawn) pan gafodd y Rheilffordd ei chynnwys ar y rhaglen “Great British Railway Journeys with Michael Portillo” ar BBC2 ym mis Mai, ac ar y rhaglen “Joanna Lumley’s Home Sweet Home” ar ITV ym mis Chwefror.
Dywedodd Osian Hughes, Arweinydd Marchnata Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri, am FareHarbor:
“Roeddem yn gwerthfawrogi os oeddem am i’n cwsmeriaid archebu eu tocynnau o flaen llaw, byddai angen i ni ddarparu platfform archebu oedd yn gwneud y broses o archebu tocynnau o flaen llaw yn un effeithiol a syml. “Ers I ni ddechrau defnyddio’r system ‘FareHarbor’ yn swyddogol ym mis Ebrill, mae wedi cael derbyniad da gan gwsmeriaid, yn eu galluogi i archebu tocynnau, hamperi ac arweinlyfrau o flaen llaw yn rhwydd. Mae hyn yn bwysig iawn, oherwydd erbyn diwedd wythnos Gŵyl Banc y Gwanwyn roedd 78% o’n archebion ar-lein.
“Mae’r system dicedi newydd yn darparu llu o fuddion yn cynnwys dyluniad rhyngwyneb cwsmer modern, [a’r] gallu i gyhoeddi tocynnau digidol wedi’u harchebu o flaen llaw ynghyd â’r gallu i werthu profiadau a phecynnau unigryw.”
Yn ogystal â darparu siwrnai ddi-dor i’r cwsmer, ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno gwirio argaeledd ac archebu eu ticedi ar-lein cyn teithio, mae FareHarbor hefyd wedi profi i fod yn gost-effeithiol i’r Rheilffordd. Trwy godi tâl ar sail comisiwn syml, mae FareHarbor yn cymryd canran fechan o bob gwerthiant, sy’n golygu fod y Rheilffordd yn talu am y gwasanaeth tra mae’n cael ei ddefnyddio yn unig – yn wahanol i wasanaethau archebu eraill, sydd yn codi ffioedd misol neu flynyddol.
I ddarganfod mwy am Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri neu i archebu taith, ewch i https://www.festrail.co.uk os gwelwch yn dda.