Rheoli a Chofrestru
Fframwaith anwytho rheolwyr newydd
Ers Medi 2021 ma'n ofyn rheoleiddiol i Reolwyr Gofal Cymdeithasol newydd gwblhau rhaglen anwytho- fframwaith anwytho
Mae'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol (Fframwaith Sefydlu) yn gyfres o safonau sy'n deillio o gynnwys cymhwyster Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5. Mae'n egluro'r wybodaeth a'r ymarfer y dylid eu dangos, dros amser, gan reolwyr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w rôl.
Dylai gael ei gwblhau gan bob rheolwr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w swydd fel cyflwyniad sefydlu cyffredinol i'w rôl. Rydym yn argymell y dylai pob rheolwr ei gwblhau o fewn 12 mis i'r dyddiad dechrau mewn rôl newydd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ymgorffori eich dysgu yn eich ymarfer a diweddaru gwybodaeth am fframweithiau deddfwriaethol, ymarfer ar sail tystiolaeth a meysydd arbenigol.
Cynnwys y fframwaith
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Rheoliadau
Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol
Llwybrau Cofrestru i weithwyr gofal cymdeithasol di-gymhwyster
Llawlyfr: Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (Oedolion)
Pwrpas y llyfryn hwn yw rhoi cymorth i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n ymgymryd â Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion). Datblygwyd y llawlyfr gan ymarferwyr gofal cymdeithasol i aelodau Partneriaethau Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
Mae pob adran o'r llawlyfr yn cyd-fynd â phob rhan o'r dyfarniad ac yn cynnwys y wybodaeth berthnasol a'r cyfeiriadau sydd eu hangen i ymgymryd â'r dyfarniad yn llwyddiannus.
Canllaw cymorth yw'r llawlyfr a ellir ei ddefnyddio ar y cyd â deunyddiau eraill mae rheolwyr wedi eu datblygu i gefnogi addysgu i staff gofal cymdeithasol.
Codau Ymarfer Proffesiynol
Dylai gweithwyr cofrestredig a'u cyflogwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r canllawiau sy'n berthnasol i'w maes gwaith. Gall methiant difrifol neu barhaus i ddilyn canllawiau ymarfer roi cofrestriad gweithiwr mewn perygl.
Goruchwyliaeth
Templed defnyddiol sy’n hefyd yn cefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus