Prosiectau Cymorth Busnes
Diolch i arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a ddyrannwyd gan Gyngor Gwynedd, bydd amrywiaeth o brosiectau sy'n darparu cyngor a chymorth i fusnesau lleol ar gael yn ystod 2024. Mae’r gefnogaeth yn cwmpasu popeth o sut i wneud y gorau o dechnoleg newydd a chyfleoedd i hyfforddi'r gweithlu, i gyngor ar sut i sefydlu busnes newydd.
Mae manylion y cymorth sydd ar gael gan wahanol brosiectau wedi eu rhestru isod er mwyn i fusnesau Gwynedd ddod o hyd i’r gefnogaeth sy’n addas iddyn nhw.
Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i'r gymuned fusnes ond erbyn hyn gall busnesau yng Ngwynedd dderbyn cymorth a fydd yn eich helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at adennill eich gweithgareddau busnes, naill ai drwy adfer Busnes blaenorol, ehangu a gwella eich gweithgareddau presennol neu amrywiaeth i sectorau eraill.
Bydd adolygiad o'ch Busnes yn cael ei gynnal fel y gellir awgrymu defnyddiau newydd neu well ar gyfer sgiliau, offer ac eiddo yn ogystal â chael mynediad at unrhyw gyfleoedd ariannu perthnasol ar gyfer bylchau sgiliau, hyfforddiant ac achredu a phrynu offer newydd.
Gwefan: Ailwefru - M-SParc
Mae cynllun Dyfodol Digidol ar gael i fusnesau yng Ngwynedd, o unrhyw sector, wella eich gwybodaeth am sgiliau digidol a thechnoleg, yn ogystal â rhoi cyfle i rwydweithio a chryfhau'r gadwyn gyflenwi leol a gyrru arloesedd digidol yng Ngwynedd.
Trwy'r cynllun Dyfodol Digidol hoffem i fusnesau deimlo bod ganddynt ddigon o reolaeth dros ddylanwad cynyddol technoleg ddigidol i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol.
Cofrestru
Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru o fudd i fusnesau yng Ngwynedd drwy nodi bylchau sgiliau a chyfeirio cyflogwyr at hyfforddiant wedi'i ariannu'n llawn gyda'r nod o hwyluso twf busnes, diogelu swyddi a chefnogi creu swyddi newydd. Gall busnesau sy'n cymryd rhan fanteisio ar ystod eang o hyfforddiant a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai ynghyd â darpariaeth busnes arbenigol drwy Busnes@LlandrilloMenai.
Gwefan: Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
Mae'r Academi Ddigidol Werdd ar gael i helpu busnesau weld gwerth o ddefnyddio technoleg ddigidol newydd, cyflymu effeithlonrwydd, lleihau allyriadau carbon a lleihau costau. Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol, dadansoddi eich busnes, a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon.
Gwefan: Academi Ddigidol Werdd | Busnes@LlandrilloMenai (gllm.ac.uk)
Mae Cwmpas yn darparu cymorth busnes i fentrau cymdeithasol, felly os ydych chi'n ystyried dechrau menter gymdeithasol neu eisoes yn rhedeg un ac yn edrych i ddatblygu, mae cefnogaeth gan Cwmpas ar gael. Gallent gynnig amrywiaeth o wasanaethau fel hyfforddiant cyfarwyddwyr, creu polisïau, agor cyfrifon banc a mwy.
Gwefan: https://employeeownershipwales.co.uk/
Mae Cwmpas hefyd yn arbenigwyr mewn cynlluniau perchnogaeth gweithwyr ar gyfer busnesau, a gall ddarparu cymorth arbenigol i wneud cynlluniau'n realiti i fusnesau presennol neu unrhyw un sy'n sefydlu busnes perchnogaeth gweithwyr.
Gwefan:Perchnogaeth Gweithwyr Cymru - Cwmpas
Mae'r Hwb Menter yma i'ch helpu chi i gychwyn busnes drwy gynnal digwyddiadau, cymorth un i un, sesiynau Miwtini a llawer mwy.
Mae Trefi SMART yn anelu i osod WiFi cymunedol ar brif strydoedd ar draws Gwynedd a Môn. Gall y dechnoleg gasglu data sy’n cael ei arddangos ar lwyfan data y prosiect, a chefnogi busnesau lleol i ddefnyddio’r data yma i lywio penderfyniadau busnes, ac i fesur effaith unrhyw ymyriadau neu ddigwyddiadau yn y dref.
Gwefan: Hwb Menter
Mae’r rhwydwaith yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth i ddatgarboneiddio sydd ar gael i fusnesau yn yr ardal. Bydd hyn yn hybu gweithgareddau sy’n galluogi, cefnogi ac arwain busnesau a sefydliadau ar dwf busnes, anelu at Sero Net a hybu’r economi gylchol.
Mae Grant Gwella Sgiliau’r Gweithlu ar gael i roi cymorth i fusnesau gynnig hyfforddiant i weithwyr ddatblygu eu sgiliau. Bydd gwybodaeth am sut i ymgeisio ar gael yn fuan.