Digwyddiadau Busnes
Mae digwyddiadau ar gyfer busnesau yn cael ey cynnal ar hyd y flwyddyn yng Ngwynedd. Cadwch lygaid ar y dudalen i weld y diweddaraf am ddigwyddiadau Busnes@Gwynedd.
Digwyddiadau ar y gweill
Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2024
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Wythnos Busnes yn dychwelyd rhwng 14 a 18 Hydref 2024. Bydd y gyfres o ddigwyddiadau hir-ddisgwyliedig hon yn cael eu cynnal ar draws gwahanol leoliadau yng Ngwynedd, gan gynnig llwyfan unigryw i fusnesau a sefydliadau lleol gysylltu, rhannu gwybodaeth, a chael eu hysbrydoli ar gyfer y dyfodol.
Drwy gydol yr wythnos, mae Cyngor Gwynedd wedi partneru â sefydliadau cymorth busnes i gynnal ystod o sesiynau sydd wedi'u cynllunio i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a chyngor ymarferol, bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol busnesau ledled y sir.
Dyma gipolwg o'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer yr wythnos:
Gweld rhaglen Wythnos Busnes Gwynedd 2024
Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiadau, a sicrhau eich lle yn unrhyw sesiwn drwy glicio ar y lincs isod:
Digwyddiadau Busnes eraill yng Ngwynedd
Dyddiad: 23/10/24
Amser: 09:00 – 11:00yb
Lleoliad: Plas Tan y Bwlch
Rydym yn mynd i Blas Tan y Bwlch, Maentwrog ar gyfer y digwyddiad nesaf yn ein cyfres o frecwastau busnes, sydd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer busnesau sy’n gweithredu fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.
Beth i'w ddisgwyl:
- Dysgwch am arwyddocâd dynodiad Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd
- Dysgwch am fusnesau yn yr ardal a'u cysylltiad â'r Dirwedd Lechi, gyda chyflwyniadau gan berchnogion busnesau lleol
- Cysylltwch â sefydliadau cymorth busnes a darganfod sut y gallant gefnogi eich busnes
- Cyfle i rwydweithio gyda pherchnogion busnesau eraill
- Gweithgaredd bonws (i'w gadarnhau) i gau'r sesiwn. Y tro diwethaf cawsom daith o amgylch Zipworld
Mae'r digwyddiad yn cynnwys te, coffi a lluniaeth ysgafn. Byddwn yn darparu ar gyfer eich anghenion dietegol.
Cliciwch yn fan hyn i gofrestru: Brecwast Busnes Llechi Cymru | Wales Slate Business Breakfast Tickets, Wed, Oct 23, 2024 at 9:00 AM | Eventbrite
Mae’r cynnig hwn ar gael ar gyfer pob digwyddiad a wnaeth gais am y Gronfa cymorth digwyddiadau SPF, Gwynedd neu sydd wedi mynychu cyfarfod Grŵp Ymgynghori Diogelwch Gwynedd. Mae'r cynnig ar gyfer un person fesul sefydliad/digwyddiad.
Sylwch mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs, a bydd mynediad ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd galw mawr, efallai y byddwn yn cynnig cwrs ychwanegol ar ddyddiad hwyrach.
Bydd y cwrs yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
- Cyflwyniad i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch y DU yn y diwydiant digwyddiadau
- Cyfrifoldeb am ddiogelwch mewn digwyddiadau – Dealltwriaeth o’r termau perygl, risg, tebygolrwydd, a chanlyniad
- Adnabod peryglon ac ysgrifennu asesiadau risg
- Systemau gwaith diogel mewn digwyddiadau
- Arwyddion diogelwch ac Offer Diogelu Personol mewn digwyddiadau
- Rhoi gwybod am ddigwyddiadau a damweiniau
- Gweithdrefnau Argyfwng a Phlant Coll
- Bygythiadau Diogelwch a Therfysgaeth
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cwblhewch y ffurflen ar-lein gyda'ch manylion.
Cofrestru Cwrs IOSH
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gofrestru, byddwn yn cysylltu â chi ymhellach. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn dolen Zoom ar gyfer y cwrs a chopi o'r llyfr gwaith y cwrs o flaen o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
digwyddiadau@gwynedd.llyw.cymru
Mae Busnes@Gwynedd a menter cyflogaeth Gwaith Gwynedd yn cynnal sesiynau galw heibio. Mae croeso i unrhyw fusnes neu unigolyn alw heibio am sgwrs. Bydd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am sut gall Cyngor Gwynedd eich helpu o ran anghenion recriwtio eich busnes.
12/11/2024
|
Sesiwn Galw Heibio GG & Busnes@
|
Pwllheli
|
Felin Fach
|
09:30 - 15:30
|
Digwyddiadau sydd wedi eu cynnal
Awst 4 - 12 2023
I ddathlu bod yr Eisteddfod yn dod i Llŷn ac Eifionydd cynigiodd Busnes@Gwynedd 6 caban yn rhad ac am ddim i fusnesau lleol nad oeddent wedi masnachu yn yr Eisteddfod o'r blaen. Ar ôl proses gystadleuol bu 13 busnes yn llwyddiannus:
- Casgliad Lowri Roberts
- Paentio Wynebau Enfys
- Gwenynfa Pen y Bryn
- Coffi Dre
- Te Parti
- Blagur Coed
- Meian
- Dylunio Wyn
- Taldraeth a Maeth Natur
- Pensolar Cyf
- Dillad yr Wyddfa
- Mary Gwen
Ar 9/08/2023 roedd hi’n Ddiwrnod Llewyrchus Gwynedd o fewn pabell Cyngor Gwynedd ac arweiniodd hyn at banel cyffrous Busnes@Gwynedd lle bu Daloni Metcalfe a Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn siarad â busnesau lleol Meian, Mary Gwen a Dylunio Wyn am eu cynnyrch, eu gwasanaethau a’u perthynas â’r Gymraeg.
Roedd Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd yn gyfle unigryw i fusnesau a sefydliadau sy’n gweithredu yng Ngwynedd ddod at ei gilydd i gwrdd, dysgu a rhannu a datblygu syniadau a strategaethau newydd.
Roedd y digwyddiad yn cynnig trosolwg o hinsawdd busnes yn Ngwynedd, yn ogystal â throsolwg o’r math o gymorth sydd ar gael i fusnesau wrth iddynt lywio’r heriau sy’n eu wynebu.
- Roedd bore’r digwyddiad yn canolbwyntio ar 3 busnes lleol, gan rannu straeon am yr heriau maent wedi wynebu a’r cyfleon sydd wedi codi drwy fod yn arloesol.
- Roedd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar y cymorth ymarferol sydd ar gael gan sefydliadau cymorth busnes yng Ngwynedd.
Yn y bore roedd cyfle i glywed straeon 3 busnes lleol o sut maent wedi delio hefo heriau a wynebwyd yn yr blynyddoedd diwethaf ac sut maent wedi ffeindio ffyrdd arloesol i barhau hefo ei busnesau.
- Harlech Foodservice
- Tanya Whitebits
- Pant Du
Yn yr prynhawn roedd gyfle i glywed am yr hinsawdd fusnes gan Dr Edward Jones, darlithydd mewn Economeg o Brifysgol Bangor ac yr sefydliadau cymorth isod ynglŷn a sut all nhw rhoid cymorth ymarferol i fusnesau yn Ngwynedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn a grantiau cymorth busnes gan Cyngor Gwynedd.
- Busnes Cymru
- Busnes@ Llandrillo Menai
- Banc Datblygol Cymru
- Purple Shoots
- Tim Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd
Roedd y sefydliadau isod gyda stondinau yn yr digwyddiad ac ar gael i gynnig cymorth ac gwybodaeth ynglŷn a’i gwasanaethau.
- Gwaith Gwynedd
- Byw’n Iach
- Hwb Menter
- Busnes@ Llandrillo Menai
- ARFOR
Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau rhedeg busnes cynyddol, trefnwyd gweminar ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint wedi eu lleoli yng Ngwynedd oedd yn edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd busnes er mwyn gostwng costau a chynyddu refeniw.
Yn cymryd rhan yn y gweminar roedd Siwan Lisa Evans, Prosiect Platfform Digidol ar gyfer y Sectorau Bwyd a Lletygarwch, Cyngor Gwynedd, Geraint Huws a Zoe Pritchard, Grŵp Ymgynghori Lafan a Sarah Morris, Busnes Cymru.
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnesau Lleol: busnes@gwynedd.llyw.cymru
Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau ynni cynyddol, cynhaliodd Uned Cefnogi Busnes y Cyngor weminar ar gyfer busnesau lleol oedd yn edrych ar ffyrdd o effeithlonni eu hadnoddau er mwyn gostwng eu costau a’u hallyriadau carbon.
Yn cymryd rhan yn y digwyddiad roedd Richard Fraser-Williams o Fusnes Cymru a Stu Meads, ymgynghorydd amgylcheddol o brosiect yr Academi Ddigidol Werdd, Coleg Llandrillo-Menai.
Mae copi o gyflwyniadau’r gweminar, y Canllaw Arbedion Gwyrdd a phecyn gwybodaeth pellach ar gael isod:
- Cyflwyniadau Busnes Cymru a’r Greener Edge
- Canllaw Arbedion Gwyrdd
- Pecyn Gwybodaeth Bellach