Casglu Gwastraff Masnachol
Os ydych yn rhedeg busnes neu'n cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae dyletswydd cyfreithiol arnoch (Dyletswydd Gofal) i gael gwared ar unrhyw wastraff a deunydd ailgylchu yn gyfrifol drwy gludwr gwastraff masnach trwyddedig.
Gall Cyngor Gwynedd gynnig:
- gwasanaeth cynhwysfawr, dibynadwy a phroffesiynol
- prisiau cystadleuol
- contractau ar gyfer casgliadau rheolaidd, neu, gasgliadau ar gyfer digwyddiadau un-tro
- gwasanaeth sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Gweld Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012