Cytundebau casglu gwastraff masnachol
Mae dyletswydd cyfreithiol (Dyletswydd Gofal) ar bob gweithle i sicrhau bod unrhyw wastraff cyffredinol ac ailgylchu sy'n cael ei gynhyrchu ganddynt yn cael ei gasglu a'i waredu gan gwmni neu sefydliad sydd wedi eu trwyddedu.
Os ydych chi angen cael gwared ar wastraff cyffredinol ac ailgylchu o’ch safle busnes yn rheolaidd, mae ein gwasanaeth casglu drwy gytundeb yn ddelfrydol.
Cytundebau casglu gwastraff masnachol Cyngor Gwynedd
Rydym yn cynnig:
- Casgliadau dibynadwy o wastraff ac ailgylchu
- Amrywiaeth eang o feintiau bin/cynwysyddion i ymdopi â’ch holl ofynion
- Cytundebau treigl 12 mis neu fesul cyfnod casglu dymunol (lleiafswm o 6 mis)
- gwasanaeth sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.
- Canolfan gyswllt ar gael 5 diwrnod yr wythnos.
Mwy o wybodaeth: Llyfryn Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol
Pris
Nid yw cost casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu masnachol wedi’i gynnwys mewn ardrethi busnes.
Er mwyn cael dyfynbris, cysylltwch â ni:
Mae’r taliadau hyn yn cynnwys:
- cyflenwad o finiau wedi eu dosbarthu
- ffi gwaredu
- eich dogfennaeth Dyletswydd Gofal
- casgliadau rheolaidd.
Rydym yn codi tâl fesul casgliad yn unig. Nid oes unrhyw gostau cudd ac nid oes TAW i'w hychwanegu.
Gwneud cais am wasanaeth casglu gwastraff masnachol
I wneud cais am gytundeb casglu gwastraff ac ailgylchu Cyngor Gwynedd, lawrlwythwch y ffurflen gais isod. Wedi i chi lawrlwytho'r ffurflen, safiwch hi ar eich cyfrifiadur a'i chwblhau.
Lawrlwytho ffurflen gais: Cytundeb Gwastraff Masnachol
Byddwch angen fersiwn diweddar o Adobe Reader (fersiwn 11 neu uwch).
Os nad ydi Adobe Reader ar eich dyfais gallwch:
Mae telerau ac amodau'r gwasanaeth i'w gweld ar y ffurflen.
Mwy o wybodaeth a cysylltu â ni
Os ydych yn gwsmer newydd eisiau trafod anghenion casglu gwastraff ac ailgylchu eich busnes, neu os ydych yn gwsmer sydd yn derbyn ein gwasanaeth yn barod ac angen trafod eich cytundeb, cysylltwch â ni:
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y: Llyfryn Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol