Alergedd Bwyd

‘Ymateb gan system imiwnedd y corff yw alergedd bwyd yn dilyn bwyta eitem o  fwyd penodol’  NHS CHOICES

Er fod rhan helaeth symptomau yn ysgafn mae rhai achlysuron ble mae symptomau a’r effaith yn llawer mwy difrifol megis sioc anaffylactig a all roi bywyd mewn perygl.

Daeth cyfraith newydd i rym mis Rhagfyr 2014 o’r enw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 sydd yn rhoi cyfrifoldeb ar fusnes bwyd i hysbysu cwsmeriaid os oes un o’r 14 alergedd (gweler isod) yn gynhwysyn mewn pryd.

  • Seleri
  • Grawnfwydydd (sy’n cynnwys glwten)
  • Cramenogion
  • Wyau
  • Pysgod
  • Bys y blaidd
  • Llefrith
  • Molysgiaid
  • Mwstard
  • Cnau
  • Pysgnau
  • Hadau Sesami
  • Soia
  • Sylffwr Deuocsid

Sylwer: Gall alergeddau bwyd eraill gael effaith ar bobl ac felly mae angen cymryd gofal wrth baratoi bwyd iddynt os ydynt yn eich gwneud yn ymwybodol o’r alergedd.

Mae rhaid datgan mewn ffordd amlwg os yw’r 14 alergedd yn gynhwysyn mewn pryd. Er enghraifft, arddangos ar fwydlen, bwrdd du neu becyn gwybodaeth.

Os nad yw’r wybodaeth yma yn cael ei arddangos yna mae’n rhaid i’r busnes nodi sut i gael y wybodaeth e.e. ‘Plis siaradwch gydag aelod o staff am y cynhwysion yn eich pryd wrth archebu.’

 

Adnoddau

Mae Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu llawer o wahanol adnoddau i helpu busnesau gydymffurfio’r gyda’r rheoliadau yn amrywio o bosteri, pamffledi, cardiau rysáit a chwrs di-dâl alergeddau i’w gwblhau ar y we.