Mae dyletswyddau gorfodaeth deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn cael ei rannu rhwng y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ac awdurdodau lleol. Yn gyffredinol, mae HSE yn gyfrifol am ffatrïoedd, safleoedd adeiladu, mwyngloddiau a chwareli, ffermydd, ffeiriau, rheilffyrdd, gweithfeydd cemegol, a gosodiadau alltraeth a niwclear.
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am:
- Adeiladau masnachol
- Warws
- Ymgymeriadau trafnidiaeth
- Gwestai
- Cartrefi Gofal Preswyl
- Adeiladau hamdden
- Gwasanaethau personol (e.e.lliwio'r croen)
- Swyddfeydd
- Diogelwch meysydd chwaraeon.
Gweld canllawiau pellach ar gyfrifoldebau y HSE ac awdurdodau lleol
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio nifer o ddulliau i reoleiddio a dylanwadu ar fusnesau mewn perthynas a rheoli risgiau iechyd a diogelwch gan gynnwys:
- darparu cyngor ac arweiniad i fusnesau neu grwpiau unigol
- ymyriadau adweithiol e.e. ymchwilio i ddamwain neu gŵyn
- ymyriadau rhagweithiol gan gynnwys archwiliadau
Mae archwiliadau rhagweithiol yn cael eu rhaglennu yn flynyddol ar sail blaenoriaethau cenedlaethol. Rydym yn cyflawni 'gwaith menter' yn seiliedig ar flaenoriaethau eraill.