Y drefn dendro
Beth yw tendro?
Tendro yw'r broses y mae'r Cyngor yn ei defnyddio i wahodd cyflenwyr i ddarparu nwydd neu wasanaeth i’r Cyngor.
Bydd Cyngor Gwynedd yn tendro am unrhyw nwydd, gwasanaeth neu waith sydd â gwerth dros £50,000. Nod y broses dendro yw creu cystadleuaeth effeithiol, teg a thryloyw, a sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a’r trethdalwr.
Ble mae'r Cyngor yn hysbysebu tendrau?
Mae Cyngor Gwynedd yn hysbysebu tendrau drwy borth Llywodraeth Cymru: Gwerthwch i Gymru
Oes modd cael gwybod pan fydd tendr perthnasol i fy nghwmni yn cael ei hysbysebu?
Oes. Wrth gofrestru gyda Gwerthwch i Gymru byddwch yn creu proffil i’ch cwmni. Drwy gyflwyno gwybodaeth fanwl am eich cwmni o fewn y proffil bydd yn helpu Gwerthwch i Gymru i bennu pa dendrau all fod o ddiddordeb i'ch cwmni chi. Os ydych wedi cynnwys eich manylion llawn a'r codau CPV (Common Procurement Vocabulary Codes) cywir, bydd y system yn anfon e-bost i chi fydd tendr perthnasol yn cael ei hysbysebu.
Beth ydi'r codau CPV (Common Procurement Vocabulary Codes)?
Y codau CVP ydi'r codau sydd yn cael eu defnyddio i adnabod gwahanol feysydd gwaith. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Gwerthwch i Gymru neu drwy gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000.
A oes ffi am gofrestru ar wefan Gwerthwch i Gymru?
Na, does dim cost i gofrestru ac mae'r system yn hawdd i'w ddefnyddio.
Pwy arall sy'n defnyddio'r wefan Gwerthwch i Gymru?
Mae'r wefan Gwerthwch i Gymru yn cael ei ddefnyddio gan holl gyrff sector cyhoeddus Cymru. Golyga hyn fod modd i chi hyrwyddo eich cwmni, gweld hysbysebion sector cyhoeddus a chysylltu â holl sefydliadau cofrestredig y sector gyhoeddus yng Nghymru.
A oes manteision pellach o gofrestru?
Os ydych wedi cofrestru gyda Gwerthwch i Gymru gallwch hefyd;
- gael mynediad at y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghymru sy'n ymwneud â chaffael a thendro
- cymryd rhan mewn fforymau gyda chyflenwyr a phrynwyr i drafod ymarfer gorau
- edrych drwy'r gronfa ddata o gyflenwyr am gyfleoedd i gyflwyno ceisiadau ar y cyd
- lawrlwytho dogfennau defnyddiol fel deddfwriaeth yr DU, canllawiau tendro, polisïau prynwyr ac erthygl ar sut i lwyddo.
Ydi'n bosib i mi gael fy nghynnwys ar restr cyflenwyr cymeradwy'r Cyngor?
Mae'r Cyngor yn gwyro oddi wrth yr arfer o ddefnyddio 'Rhestrau Cymeradwy' ac yn ffafrio contractau fframwaith.
Rydym yn argymell bod cyflenwyr yn cofrestru ar wefan Gwerthwch i Gymru er mwyn gweld ein hysbysebion am gontractau a cheisiadau am ddyfynbrisiau.
Beth ydi tendr Ewropeaidd (OJEU)?
Mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd ddilyn rheolau cenedlaethol ar gyfer contractau sydd â gwerth dros drothwy ariannol arbennig. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am y trothwyon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Beth yw system eGaffael?
Mae ein system e-gaffael ‘etenderwales’ yn ein galluogi ni rhannu a derbyn pecynnau tendro yn electronig. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan e-dendr Cymru
Bydd ein tendrau yn parhau i gael eu hysbysebu ar wefan Gwerthwch i Gymru.
Ble alla i ddod o hyd i'r Amodau a Thelerau safonol y Cyngor?
Dyled amodau a thelerau’r gytundeb fod yn rhan o’r pecyn caffael, cysylltwch a’r Gwasanaeth Cyfreithiol y Cyngor am wybodaeth pellach.
Oes cymorth ar gael i gwblhau dogfennau tendr y Cyngor?
Bydd manylion cyswllt ar gyfer derbyn cymorth wedi ei nodi ar y ddogfen dendr ei hun. Gall Busnes Cymru hefyd gynnig cymorth ar sut i gwblhau dogfennau tendr, a chynnal sesiynau gyda chyflenwyr lleol. Cysylltwch â Busnes Cymru am fanylion pellach ar 03000 6 03000.
Beth sy’n digwydd os ydy fy nghais yn hwyr yn cyrraedd?
Yn anffodus, fel rheol nid ydym yn derbyn unrhyw gais sy’n dod i law ar ôl y dyddiad/amser cau.
Os yn nad yw fy nghais yn llwyddiannus, ydi hi’n bosib derbyn adborth?
Oes. Bydd y Cyngor yn ceisio rhoi adborth ar unrhyw gais aflwyddiannus er mwyn i gyflenwyr gallu gwella ceisiadau i’r dyfodol.
I dderbyn adborth, cysylltwch gyda’r pwynt cyswllt sydd wedi ei nodi ar y ddogfen dendr neu gyda’r Gwasanaeth Caffael drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Gwasanaeth Caffael ar 01766 771000 neu caffael@gwynedd.llyw.cymru