Mae 3 math gwahanol o chwiliad:
- Ffurflen LLC1
Gwybodaeth a restrir ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a ddatgelir yn y ffurflen LLC1. Bydd yn nodi os oes ffioedd ariannol yn ddyledus, yn ogystal â manylion am unrhyw orchmynion torri coed, grantiau adnewyddu, cadwraeth ac adeiladau rhestredig ac ati.
- Ffurflen Con29
Holiadur am y tir/eiddo wedi’i anfon i adrannau amrywiol o fewn Cyngor Gwynedd yw chwiliad Con29.
Mae Rhan 1 yn rhoi atebion i gyfres o gwestiynau safonol am y eiddo ac yn nodi manylion am unrhyw gynlluniau lleol ar gyfer yr ardal, rheoliadau adeiladu a phenderfyniadau cynllunio, cynlluniau traffig, cytundebau ffyrdd ac ati.
Mae Rhan 2 yn rhoi atebion i ymholiadau ychwanegol os gofynnir rhai, er enghraifft, tir comin, llwybrau cyhoeddus, hysbysiadau cwblhau ac ati.
- Chwiliad personol
Nid yw apwyntiadau chwiliad personol ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Close
Gall unrhyw un gynnal chwiliad personol. Noder mai chwiliad o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig yw hwn ac nid yw’n cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth sy’n cael ei amlinellu yn y CON29.
Os am wneud chwiliad personol, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad: (byddwch angen cyfeiriad llawn yr eiddo/ tir, enw’r chwiliwr personol a rhif ffôn cyswllt.)
(01286) 679 647.
Er gwybodaeth: Mae rhan o Barc Cenedlaethol Eryri yn syrthio o fewn ffiniau Gwynedd. Os yw eiddo/tir yn syrthio o fewn yr ardal honno, byddwn yn casglu’r wybodaeth cynllunio perthnasol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar eich rhan.