Tir comin a lleiniau pentrefi
Rydym yn cadw manylion pob tir comin a lleiniau pentrefi ar gofrestrau. Mae'r cofrestrau hyn yn agored i archwiliad cyhoeddus.
Pwy sy’n cael defnyddio Tir Comin?
Mae Tir Comin o dan reolaeth hawliau comin megis yr hawl i bori stoc. Nid yw'r cyhoedd yn gyffredinol yn mwynhau'r hawliau hyn. Fel arfer, pobl ddynodedig fydd yn mwynhau'r hawliau gan fod yr hawliau hynny ynghlwm ag eiddo y maent yn byw ynddo, yn aml gan ei fod yn gyfagos â Chomin.
Mae'r rhan hon o'r gyfraith yn gymhleth iawn, a dylid ystyried ceisio cyngor annibynnol lleol/cyfreithiol am wir statws y tir a'i ddefnyddwyr cyn ymgeisio i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir y credant ei fod yn dir comin neu leiniau pentref.
Mae mwy o fanylion am yr hawliau hyn i’w gweld ar y cofrestrau.
Sut mae gweld y cofrestrau?
Gellir gweld y cofrestrau yn ein swyddfeydd. Bydd angen cysylltu i drefnu apwyntiad o flaen llaw:
- Swyddfa Caernarfon – ar gyfer ardal Arfon a Dwyfor
Ffôn: 01286) 679647
Cyfeiriad: Pridiannau Tir Lleol, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
- Swyddfa Dolgellau – ar gyfer ardal Meirionnydd
Ffôn: (01341) 424330
Cyfeiriad: Pridiannau Tir Lleol, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YB
Chwiliadau
Gallwn gwblhau chwiliadau o'n Mapiau Tir Comin a Lleiniau Pentref er mwyn canfod os yw eiddo neu lain o dir penodol yn syrthio o fewn ffin tir comin neu lain bentref. Mae'r Chwiliad Tir Comin bellach yn dod o dan gwestiwn 22 yn Rhan 2, Ymholiad Dewisol ar Ffurflen Chwiliad Con29. Rhagor o fanylion am chwiliadau tir lleol.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni:
- Swyddfa Caernarfon: (01286) 679647
- Swyddfa Dolgellau: (01341) 424330