Hysbysebu Trwyddedau
Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, mae'n ofynnol i'r Cyngor hysbysebu'r ceisiadau canlynol ar ei wefan.
- cais am drwydded eiddo
- cais am ddatganiad darparieithol
- cais i amrywio trwydded eiddo
- cais am dystysgrif eiddo clwb
- cais i amrywio tystysgrif eiddo clwb
Mae ceisiadau yn agored i sylwadau am gyfnod o 28 diwrnod.
Sylwadau
Rhaid i bob sylw gael ei wneud yn ysgrifenedig a bod yn berthnasol i un neu fwy o'r pedwar amcan trwyddedu.
1. Atal trosedd ac anhrefn
2. Diogelwch y cyhoedd
3. Atal niwsans cyhoeddus
4. Amddiffyn plant rhag niwed
Rhaid i sylwadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth neu brofiad ac nid ar ddyfalu.
Ni fydd sylwadau sy'n ymwneud â chystadleuaeth gan fusnesau eraill yn cael eu hystyried.
Ni fydd sylwadau a ystyrir yn wamal neu'n flinderus yn cael eu hystyried.
Ni ellir ystyried sylwadau dienw yn berthnasol gan na allwn wirio a ydynt yn wamal neu'n flinderus.
Rhaid derbyn sylwadau o fewn y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Ni ellir ystyried sylwadau hwyr.
Os nad yw sylw yn ymwneud ag un neu fwy o'r Amcanion Trwyddedu bydd yn annilys ac yn cael ei wrthod.
Sut i gyflwyno Cynrychiolaeth
Gallwch gyflwyno'ch cynrychiolaeth ar-lein, trwy e-bost neu trwy'r post.
Ar-lein:
Gweld y ceisiadau agored i ymgynghoriad a chyflwyno cynrychiolaeth gan ddefnyddio ein Cofrestr Trwyddedau.
Gweld cofrestr trwyddedau
Trwy E-bost: Trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru
Trwy'r post:
Swyddog Trwyddedu
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH
Dalier Sylw: Mae'n drosedd i wneud datganiad ffug yn fwriadol neu yn ddi-hid mewn perthynas â chais, a'r ddirwy uchaf y gall person ei wynebu os yw'n euog o'r drosedd yma yw £5,000.
Hysbysiadau cyfredol
Mae'n bosib gweld ceisiadau ar gyfer ymgynghori cyfredol ar y gofrestr trwyddedau ar-lein:
Gweld cofrestr trwyddedau