Mae trwyddedu amgylcheddol yn ffordd o reoli rhai mathau o osodiadau diwydiannol sydd â’r gallu i greu llygredd.
Mae tri dosbarth math gwahanol o drwydded, sef:
Trwyddedau Rhan A1
Rheolir gosodiadau sydd angen trwydded A1 gan Asiantaeth yr Amgylchedd a dyma’r diwydiannau a ystyrir yn gyffredinol yw’r rhai sy’n llygru fwyaf. Mae’r gosodiadau hyn yn cynnwys gorsafoedd ynni mawr, gweithiau cemegol a phrosesau diwydiannol trwm. Mae eiddo A1 yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i'r awyr, i'r tir ac i ddŵr. Caiff agweddau amgylcheddol eraill fel sŵn, dirgrynu, rheoli gwastraff a'r defnydd o ynni hefyd eu hystyried.
Trwyddedau Rhan A2
Mae gosodiadau sydd angen trwydded A2 yn cael eu rheoli gan y Cyngor. Ystyrir fod y llygredd gaiff ei greu gan osodiadau o’r fath o risg cymedrol. Mae eiddo A2 hefyd yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i’r awyr, i'r tir, i'r dŵr ac ystyriaethau amgylcheddol eraill.
Trwyddedau Rhan B
Mae diwydiannau neu osodiadau sydd angen trwydded rhan B yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i’r awyr yn unig. Bydd gweithfeydd concrid, prosesau chwarel a llosgwyr olew gwastraff yn syrthio i’r categori hwn.
Rhagor o fanylion
Mae rhagor o wybodaeth a manylion am y gosodiadau sydd angen caniatâd i’w gweld yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 - Atodlen 1