Cais i gau ffordd dros dro
Os ydych am gau ffordd yng Ngwynedd am unrhyw gyfnod o amser, mae’n rhaid anfon cais i Uned Gofal Stryd y Cyngor.
Gall y gais ddod gan gwmni neu gan unigolyn sydd, er enghraifft, yn trefnu digwyddiad. e.e:
- gwaith ffordd / gwaith ar ochr y ffordd
- gorymdaith gyhoeddus
- marchnadoedd stryd
- unrhyw cyfnodau ble mae disgwyl i dorfeydd o bobl fod ar y stryd
Sut ydw i’n gwneud cais?
Llawrlwythwch y ffurflen gais isod a’i dychwelyd drwy’r post (gyda’r ffi) i’r cyfeiriad ar y ffurflen
Ffurflen gais – cau ffordd dros dro
Rydym yn ymdrechu i gadw ffyrdd y sir ar agor, ac yn adolygu pob cais yn unigol. Nid yw cyflwyno ffurflen gais yn gwarantu y bydd y Cyngor yn cau’r ffordd i chi.
Cau ffordd mewn argyfwng:
Ffurflen gais - cau ffordd mewn argyfwng
Beth yw’r gost?
- £1061 - cais i gau ffordd dros dro trwy rybudd.
- £2,514 - cais i gau ffordd dros dro trwy orchymyn.
Anfonwch siec yn daliadwy i ‘Cyngor Gwynedd’ gyda’r ffurflen gais. Ni fydd eich cais yn cael ei ystyried nes byddwn wedi derbyn y taliad.
Ni fydd ad-daliad o’r ffi os yw’r cais yn aflwyddiannus.
Rhagor o wybodaeth
Am gyngor pellach, ffoniwch 01766 771000