Sgaffald
Mae’n rhaid cael trwydded cyn gosod sgaffald/hordin a/neu adeiladwaith arall ar briffordd gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys codi sgaffald/ hordin a/neu adeiladwaith arall ar ffordd gyhoeddus, balmant, llwybr cerdded, ymyl gwair neu stryd gefn. Y Cyngor sydd yn gyfrifol am roi y trwyddedau hyn.
Sut mae gwneud cais?
Dim ond cwmnïau gosod sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall sydd yn gallu gwneud cais am drwydded. Nid oes modd i unigolion wneud cais.
Os ydych angen gosod sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall cysylltwch â chwmni sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall o’ch dewis. Bydd y cwmni yn gwneud cais am drwydded ar eich rhan.
Dylai cwmnïau sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall gwblhau’r ffurflen gais isod.
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen cwblhau ffurflen gais 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych eisiau i'r drwydded gychwyn.
Ffioedd
£110 hyd at 10 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall.
£128 rhwng 10 a 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall.
£145 dros 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall.
Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu bydd y drwydded yn ddilys am 3 mis.
Er mwyn cael estyniad i'r drwydded, bydd yn rhaid adnewyddu cyn i’r drwydded ddod i ben.
Ffioedd adnewyddu
£110 hyd at 10 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall pob mis dilynol.
£128 rhwng 10 a 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall pob mis dilynol.
£145 dros 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall pob mis dilynol.
Nid oes modd adnewyddu eich cais ar-lein. Cysylltwch â ni er mwyn adnewyddu eich cais
Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.
Eisiau talu dirwy?
Os rydych wedi derbyn dirwy am beidio cael trwydded sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall cysylltwch â ni i dalu'r ddirwy:
Rhagor o wybodaeth