Mae’r Gwasanaeth yn rhedeg dwy amgueddfa yng Ngwynedd ac yn gyfrifol am edrych ar ôl casgliadau a chreu arddangosfeydd yn y ddwy, sef Storiel ac Amgueddfa Lloyd George.
Mae llawer o’n gwaith yn y maes celfyddydau cymunedol yn targedu prosiectau iechyd, lles, addysg a thaclo unigrwydd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ddyrannu grantiau celfyddydol er mwyn cefnogi safon a chyfleoedd celfyddydol i bawb.
Drwy Neuadd Dwyfor, Pwllheli a Neuadd Buddug, Y Bala mae’r Gwasanaeth yn cefnogi rhaglenni celfyddydol amrywiol er mwyn sicrhau fod y celfyddydau’n fyw yn ein cymunedau a bod mynediad at y celfyddydau yn ein hardaloedd gwledig.
Ein nod fydd parhau i gyfoethogi bywydau trigolion Gwynedd trwy hyrwyddo dealltwriaeth o’n hetifeddiaeth a’n diwylliant unigryw, ond bydd rhaid i ni weithio’n wahanol gyda phartneriaid i wneud yn siŵr fod hyn yn llwyddo.