Gwybodaeth am y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r Ddeddf hon yn rhoi'r hawl i chi gael gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus mewn dwy ffordd:
- Trwy'r Cynllun Cyhoeddi sef dogfen sy'n dangos y math o wybodaeth a gyhoeddir gan y Cyngor, ffurf y wybodaeth ac a oes ffi am y wybodaeth honno neu
- Trwy wneud cais penodol am wybodaeth (gweler manylion isod).
Gwneud cais penodol am wybodaeth
Sut mae gwneud cais?
Os nad yw'r wybodaeth eisoes yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch neud cais ar-lein
Gwneud cais ar-lein
Neu ysgrifennu at yr Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data gan roi eich enw a'ch cyfeiriad a dweud pa wybodaeth yr hoffech ei gweld.
- E-bost: RhyddidGwybodaeth@gwynedd.llyw.cymru
- Cyfeiriad: Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data, Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Beth sy'n bwysig i gynnwys yn y cais?
Dylech gynnwys:
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion Cyswllt (Rhif ffôn, ebost)
- Disgrifiad manwl o’r wybodaeth sydd ei angen. e.e. cynnwys dyddiadau.
Cofiwch
- Nodi fod eich cais yn gais Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Amgylcheddol
- Edrych ar y wefan ac yn y Cynllun Cyhoeddi rhag ofn fod y wybodaeth ar gael yn barod
- Geisio darganfod i bwy ac ym mha adran fyddwch angen gyrru’r cais
- Ddefnyddio iaith glir a chwrtais oherwydd mae cynnwys cais mewn ffurf cwyn yn cymhlethu’r broses
- Roi cyfle i’r awdurdod brosesu’r cais cyn mynd ati i wneud un arall
- Peidiwch â defnyddio’r cais i gwyno yn erbyn aelodau staff
- Peidiwch â defnyddio cais i geisio ail-agor cwynion sydd wedi eu datrys
- Peidiwch â defnyddio cais i geisio darganfod gwybodaeth mewn gobaith o ddarganfod rhywbeth wrth lwc. Dylai pob cais gael pwrpas penodol.
Beth sy’n digwydd wedyn?
Byddwn yn cydnabod eich cais cyn gynted ag y bo modd. Os nad ydym yn sicr pa wybodaeth yn union sydd gennych dan sylw, fe wnawn ni gysylltu efo chi i drafod eich gofynion.
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Mae gennym hyd at 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad derbyn i ymateb. Os oes angen i ni gysylltu efo chi i gael eglurhad pellach, ni fydd yr 20 diwrnod yn cychwyn nes i ni gadarnhau yn union pa wybodaeth yr hoffech ei chael.
Os oes angen i ni ymestyn y cyfnod (er mwyn ystyried rhai eithriadau), fe wnawn ni roi gwybod i chi a’ch hysbysu o’r dyddiad ymateb diwygiedig.
Oes yna unrhyw reswm pam na chaiff gwybodaeth ei darparu?
Nid oes raid i ni ymateb i geisiadau niferus neu flinderus neu rai sydd y tu hwnt i’r trothwy cost (wele isod).
Gallwn hefyd wrthod datgelu gwybodaeth os yw un o'r eithriadau a geir o dan y Ddeddf yn berthnasol. Os ydym yn gwrthod eich cais, byddwn yn datgan pa eithriad yr ydym wedi ei ddefnyddio a phaham.
Ffurf y wybodaeth
Os ydych yn gofyn am gael y wybodaeth mewn ffurf arbennig (e.e. copi caled, ar dâp, Braille), neu am alw heibio swyddfeydd i weld y cofnodion sy’n cynnwys yr wybodaeth, byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais os yw hynny’n rhesymol ymarferol.
A fyddech cystal â nodi ym mha ffurf yr hoffech dderbyn y wybodaeth wrth wneud eich cais.
Fydd rhaid i mi dalu?
Mae mwyafrif y ceisiadau yn rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, os yw’n debygol o gymryd mwy na 2.5 diwrnod i ganfod, didoli a golygu dogfennau er mwyn ymateb i’ch cais (sef cost o £450 wedi ei gyfrifo ar £25 yr awr) yna nid oes raid i ni ateb.
Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais ac yn gofyn i chi ei addasu trwy, e.e. ofyn am lai o wybodaeth. Bwriad hyn yw ceisio dod â’ch cais o dan y trothwy cost. Os nad oes modd gwneud hyn yna mae’n bosib na fyddwn yn ateb y cais.
O ran ceisiadau sy’n costio llai na £450, ni fyddwn yn codi tâl a bydd costau postio/argraffu etc hefyd yn rhad ac am ddim os ydynt yn llai na £10.
Beth os nad ydw i’n fodlon efo’r ateb?
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ateb yna dylech gysylltu efo’r person sydd wedi ei enwi yn y llythyr ateb. Bydd ef/hi yn cynnal adolygiad mewnol trwy ailystyried eich cais ac naill ai’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, yn ei wyrdroi neu yn ei wyrdroi’n rhannol.
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb yn dilyn hynny, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad allanol trwy gysylltu gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd un o swyddogion y Comisiynydd wedyn yn ymdrin â’r adolygiad ar eich rhan.
Eithriadau
Fe gewch weld unrhyw wybodaeth gan y Cyngor, ond fe geir eithriadau ar gyfer gwybodaeth a ddylai fod yn gyfrinachol.
Gweld Polisi Rhyddid Gwybodaeth Cyngor Gwynedd
Gweld datganiad preifatrwydd Cefnogaeth Gorfforaethol