Panel Apelau Ysgolion
A oes gennych chi sgiliau gwrando gwych, y gallu i wneud i bobl deimlo'n gyfforddus a gwneud penderfyniadau cytbwys?
Hoffech chi gymryd rhan mewn gwasanaeth diduedd a phwysig a ddarperir i rieni ac ysgolion?
Rydym yn ceisio recriwtio aelodau newydd ar gyfer ein paneli apelau ysgol yn rheolaidd.
Mae paneli apelau mynediad addysg yn gwrando ar dystiolaeth ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag apelau a dderbynnir gan rieni/gwarchodwyr sy’n gobeithio apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod derbyn plentyn i'w dewis ysgol.
Mae paneli adolygu gwaharddiad annibynnol yn ystyried apelau gan rieni neu warchodwyr pan fo eu plant wedi cael eu gwahardd yn barhaol o'r ysgol. Mae'r panel yn ystyried penderfyniad y corff llywodraethu i gadw at y gwaharddiad parhaol, ac yn penderfynu p’un i gadw at y penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol, argymell i'r corff llywodraethu ailystyried eu penderfyniad neu gyfarwyddo'r corff llywodraethu i ailystyried eu penderfyniad.
Mae'r paneli wedi cael eu llunio o arbenigwyr addysg (pobl sydd â phrofiad mewn addysg, sy’n deall yr amodau addysgol, yn rhiant i blentyn mewn ysgol, ond sydd ddim yn gyflogedig gan Gyngor Gwynedd, oni bai am athrawon) a lleygwyr (nad oes ganddynt brofiad o reoli na darparu addysg mewn ysgol, ond y gallent fod wedi bod yn llywodraethwr neu weithredu mewn modd gwirfoddol, ac heb gysylltiadau gyda’r ysgol neu’r cyngor neu unrhyw berson sydd wedi’i gyflogi ganddo).
Darperir hyfforddiant cychwynnol llawn gyda hyfforddiant gloywi’n cael ei gynnal yn rheolaidd i sicrhau bod pawb yn cael eu cadw’n gyfredol gydag unrhyw newidiadau i gyfraith mynediad a’r codau.
Paneli Apelau Mynediad
Y sail statudol a gyfer y paneli apeliadau mynediad yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005.
Cafodd y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion mwyaf diweddar ei gyflwyno dan Adran 84 y Ddeddf ym mis Gorffennaf 2013.
Mae'n ofynnol i 3 aelod o'r panel gynnal gwrandawiad apelau mynediad ysgol, gyda phob panel yn cynnwys o leiaf un aelod o bob un o'r categorïau isod:
- Aelodau lleyg - y rheiny heb brofiad personol o reoli’r ddarpariaeth neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gall aelod lleyg fod yn rhywun sydd hefyd, neu wedi bod, yn llywodraethwr ysgol neu rywun sydd wedi gweithio neu sydd yn gweithio mewn ysgol fel gwirfoddolwr)
- Aelodau sydd ddim yn lleygwyr - y rheiny sydd â phrofiad mewn addysg; gan gynnwys athrawon / cymorthyddion dysgu, cyn-athrawon / cyn-gymorthyddion dysgu, unigolion sydd yn gyfarwydd ag amodau addysgol, neu rieni disgybl cofrestredig mewn ysgol wahanol.
Panel Apêl Gwaharddiad
Y sail statudol ar gyfer y broses apelau gwaharddiad yw Deddf Addysg 2002. Cafodd y Cod Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ei gyflwyno dan Adran 54(2) y Ddeddf ym mis Tachwedd 2019.
Mae'n ofynnol i 3 aelod o'r panel gynnal gwrandawiad apeliadau gwaharddiad ysgol, gyda phob panel yn cynnwys o leiaf un aelod o bob un o'r categorïau isod:
- aelodau lleyg - y rheiny heb brofiad personol o reoli’r ddarpariaeth neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gall aelod lleyg fod yn rhywun sydd hefyd, neu wedi bod, yn llywodraethwr ysgol neu rywun sydd wedi gweithio neu sydd yn gweithio mewn ysgol fel gwirfoddolwr)
- Ymarferydd Addysg - Pennaeth neu berson arall sy’n gweithio mewn rheolaeth addysg ar hyn o bryd.
- Llywodraethwr Ysgol - Llywodraethwr, y mae'n rhaid iddynt fod wedi gwasanaethu am ddeuddeg mis dilynol yn ystod y chwe mlynedd diwethaf ac heb fod yn bennaeth neu’n athro yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Mae'r ddau Banel yn cael eu cefnogi gan glerc annibynnol sy'n cynghori'r Panel ar bwyntiau o gyfraith a threfn ac yn cymryd nodiadau yn ystod y gwrandawiad.
Bod yn Aelod o'r Panel
- Darllen y gwaith papur a’r sylwadau ysgrifenedig fydd yn cael eu hanfon atoch
- Eistedd i fewn ar baneli apelau mynediad ysgol annibynnol
- Gwrando ar sylwadau sy’n cael eu gwneud ar lafar yn y gwrandawiad
- Sicrhau bod rhieni yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad teg ac annibynnol, ac yn cael pob cyfle i gyflwyno eu hachos ac yn cael eu cymryd o ddifri
- Pwyso a mesur y ddau achos gan y rhiant/gwarchodwr a'r Awdurdod Derbyn
- Gwneud penderfyniad ar bob achos â chyd-aelodau'r panel gan roi rhesymau am y penderfyniadau hynny
- Sgiliau cyfathrebu a gwrando da
- Gonestrwydd a thegwch
- Y gallu i gydweithio gydag aelodau eraill o'r panel
- Y gallu i ddod i farn gadarn a gwneud penderfyniad rhesymegol
- Ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb
- Bod yn ddibynadwy ynghylch unrhyw ddyddiadau yr ydych wedi cytuno i wasanaethu
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth apelau mynediad ysgol (darperir hyfforddiant)
- Darperir hyfforddiant llawn
- Cyfle i ddysgu sgiliau newydd, megis gwneud penderfyniadau
- Gwerth chweil - yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd
- Cyfle i gwrdd â phobl newydd
Gall aelodau ddewis gwasanaethu ar y panel cyn lleied neu gyn gymaint o weithiau ag y mynnent drwy’r flwyddyn. Rydym yn cynnal cronfa ddata o aelodau hyfforddedig a byddant yn cysylltu pan yn trefnu apêl i wirio argaeledd. Mae'r apelau wedi eu trefnu fel eu bod yn cael eu clywed am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn 9am i 5pm.
O fis Hydref 2022, ar ôl i arweiniad 2022 ddod yn weithredol, bydd gan y gwrandawiadau apêl mynediad y dewis i ddigwydd yn rhithiol gan ddefnyddio Zoom. Byddwn yn darparu cyfarfod dull hybrid ar gais unrhyw berson sy’n mynychu. Gall gwrandawiadau eraill fod wyneb-i-wyneb mewn lleoliad swyddfa.
Yn gyffredinol, mae gwrandawiadau apelau gwaharddiad yn cael eu clywed wyneb-i-wyneb.
Nid oed modd i chi fod yn aelod o'r panel os ydych yn:
- Gynghorydd Cyngor Gwynedd
- gyflogedig gan Gyngor Gwynedd.
Ni all llywodraethwyr, athrawon a chymorthyddion dysgu eistedd ar banel sy'n ystyried apêl ar gyfer yr ysgol lle maent yn gweithio yn ond fe allant eistedd ar baneli sy'n ystyried apelau ar gyfer ysgolion eraill.
Bydd holl aelodau'r panel yn derbyn hyfforddiant cyn eistedd ar banel. yn ogystal, caiff panelau eu cefnogi gan glerc wedi'i hyfforddi, sy'n darparu cyngor ynghylch y gyfraith a'r broses sy’n berthnasol i apelau.
Mae aelodau'r panel yn darparu gwasanaeth gwirfoddol pwysig iawn sydd yn ddi-dâl.
Mae aelodau'r panel yn gymwys i hawlio treuliau, megis costau teithio, tra'n mynychu gwrandawiadau panel a hyfforddiant.
Yn ogystal, bydd lluniaeth ar gael ar gyfer y gwrandawiadau wyneb-i-wyneb.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rôl, llenwch y ffurflen gais isod os gwelwch yn dda.
Ffurflen Gais i ddod yn Aelod o Banel Apêl Ysgolion