Mae’r datganiad hwn yn cadarnhau sut a pha wybodaeth mae adran Tai ac Eiddo yn ei chadw am unigolyn.
Pam ydym yn casglu’r wybodaeth?
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth chi er mwyn:
- asesu eich anghenion tai
- adnabod pa wasanaethau eraill all gwrdd â’ch anghenion
- rhoi cymorth a chefnogaeth
- ymchwilio i gwynion
- edrych ar ansawdd gwasanaethau
Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif. Mae gennych hawl gyfreithiol i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol a’i chadw’n ddiogel. Mae gan y Cyngor fesurau mewn lle sydd yn amddiffyn preifatrwydd yr unigolyn yn ystod y broses yma.
Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol
Bydd y Gwasanaeth Tai yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol:
- Cydymffurfio efo dyletswydd cyfreithiol (mae deddfau perthnasol yn cynnwys Deddf Tai 2004, Deddf Grantiau Adeiladwaith ac Adfywio 1996, Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 )
- Cyflawni tasg er y budd cyhoeddus
- Caniatâd
Ni fydd yr Adran yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.
Gwybodaeth y gallwn ei gasglu
- Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teuluol
- Manylion ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif Yswiriant Gwladol (mewn rhai achosion)
- Manylion cyflogwr
- Sefyllfa ariannol e.e. incwm, gwariant, manylion banc
- Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Cofnod o gwynion blaenorol
- Gwybodaeth feddygol
- Amgylchiadau personol e.e. statws llety
- Darlun o edrychiad, disgrifiad edrychiad ac ymddygiad
- Manylion iechyd corfforol a meddyliol
- Hil ac ethnigrwydd
- Credoau crefyddol
- Troseddau, achosion yn eich erbyn, canlyniadau a dedfrydau
Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser.
Mae rhai mathau o wybodaeth yn sensitif e.e. iechyd, hil, ethnigrwydd, credoau crefyddol. Defnyddir y sail gyfreithiol o dan erthygl 9(2)(g) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i brosesu’r wybodaeth hon
Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth?
Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:
- Adrannau eraill y Cyngor
- Asiantaethau, darparwyr a chymdeithasau tai
- NEST
- Cynghorau eraill
- Darparwyr gofal a’r trydydd sector
- Adrannau’r Llywodraeth fel y Swyddfa Gartref, Rheolaeth Ffiniau a’r DWP
- Yr Heddlu
- Gwasanaethau Iechyd
- Llywodraeth Cymru
- Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
- Swyddfa Archwilio Cymru
- Comisiwn Ewropeaidd
- Age Cymru
- Landlordiaid
- Rhentu Diogel Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Prawf
Caiff gwybodaeth ei rhannu mewn achosion o wir angen, ble gallwn wella ar y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig i’r unigolyn. Ni chaiff gwybodaeth ei rhannu oni bai fod angen cyfreithiol i wneud. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd yr Adran yn cadw eich gwybodaeth dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol. Mae gennym restr o gyfnodau cadw ar gyfer gwaith yr Adran. Ar ôl y cyfnod cadw bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth, os gwelwch yn dda.
Allwch chi weld pa wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanoch?
Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth bersonol mae’r Adran yn ei chadw amdanoch. Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu gadael i chi weld y wybodaeth, neu ran ohoni, oherwydd:
- ei bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu
- fod gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol yr unigolyn neu rywun arall; neu
Os na allwn roi mynediad i chi at eich gwybodaeth byddwn yn egluro’r rheswm dros wrthod.
Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?
- Lawr lwythwch ffurflen gais ‘mynediad i wybodaeth bersonol’
- Anfonwch lythyr neu e-bost atom
- Holwch ar lafar
Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf i brofi pwy ydych chi.
Unwaith y byddwn wedi derbyn prawf o’ch hunaniaeth, fe broseswn eich cais o fewn 1 mis, neu os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth, mae gennym hawl i ymestyn y cyfnod i 2 fis.
Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo'ch gwybodaeth bersonol i wlad arall.
Bydd y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn cael ei chadw am 12 mis. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data, cysylltwch â:
SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru
Swyddog Diogelu Data
Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth
Adran Cefnogaeth Gorfforaethol
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jel
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Sut i gysylltu â ni?
Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno derbyn ffurflen gais ar e-bost neu yn y post, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
Swyddog Gwybodaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Ffôn: 01286 679 223
- E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Cyfeiriad:Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Sut i gael mwy o wybodaeth am eich hawliau?
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis.