Pwy ydym ni?
Ni yw'r Timau Rheolaeth Datblygu a Gorfodaeth (gan gynnwys arbenigeddau Cadwraeth Adeiledig a Gwastraff a Mwynau) o fewn y Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut ydym yn defnyddio gwybodaeth wrth gyflawni ein dyletswyddau. Mae’r gwaith hwn yn eang ac yn cynnwys:
- Gwneud argymhellion a phenderfyniadau ar bob math o geisiadau cynllunio a darparu cyngor ar ymholiadau cynllunio
- Cynrychioli'r Cyngor mewn gwahanol gyfarfodydd i hyrwyddo'r defnydd gorau o dir
- Ymateb i gwynion sy'n ymwneud â datblygiadau anghyfreithlon posib
- Monitro datblygiadau
- Llunio cytundebau cyfreithiol, rhoi rhybuddion ac ymdrin ag apeliadau cynllunio
Sut ydym yn cael eich gwybodaeth?
Rydym yn derbyn eich gwybodaeth pan fyddwch yn cyflwyno cais cynllunio a gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd - fe'i darperir i ni'n uniongyrchol (gennych chi neu gan rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, e.e. asiant cynllunio) neu gellir derbyn y cais o wefan trydydd parti sy'n darparu gwasanaeth gweithrediadau megis yr un a ddarperir gan 'Planning Portal'.
Rydym hefyd yn derbyn eich gwybodaeth pan fyddwch chi, neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, yn gwneud sylwadau, cwynion, ymholiadau cyn cyflwyno cais ac yn cyflwyno cwestiynau/ymholiadau drwy ein gwefan, drwy e-bost, drwy'r post neu dros y ffôn.
Beth ydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Er mwyn ein galluogi i ymdrin ag ystod eang o faterion cynllunio, gan gynnwys gwneud argymhellion a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio, rhaid i unigolion ddarparu ychydig o ddata personol i ni (e.e. enw, cyfeiriad, manylion cyswllt). Mewn nifer bychan o amgylchiadau, bydd ymgeiswyr/unigolion yn darparu "data categori arbennig" i ni er mwyn cefnogi eu cais (e.e. tystiolaeth o hanes meddygol, gwybodaeth ariannol neu fusnes).
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych i gynnig cyngor, gwneud argymhellion a/neu gwneud penderfyniadau ar faterion cynllunio. Gelwir hyn yn "dasg gyhoeddus" a dyna pam nad ydym angen i chi roi caniatâd i'ch gwybodaeth gael ei ddefnyddio.
Dan y rheoliadau, mae gofyn i ni sicrhau bod ychydig o'r wybodaeth ar gael ar y gofrestr gcynllunio. Mae'r gofrestr cgynllunio yn cynnwys y brif wybodaeth yn y ffeil sy'n ymwneud â'r cais cynllunio. Fodd bynnag, bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn cadw ffeil y cais cynllunio yn ei chyfanrwydd a bydd hon yn ffurfio cofnod parhaol o benderfyniadau cynllunio ac yn darparu gwybodaeth am hanes cynllunio'r cais a'r safle, ynghyd â gwybodaeth arall, gyda phosibilrwydd y bydd ychydig ohono'n ffurfio rhan o'r 'chwiliad tir'.
Sut ydym yn rhannu eich gwybodaeth?
Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth i sefydliadau eraill. Nid ydym yn symud eich gwybodaet tu hwnt i'r DU. Nid ydym yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud penderfyniadau awtomatig.
Fel rhan o'r cyfnod ymgynghori, bydd manylion ceisiadau cynllunio, gan gynnwys dogfennau ategol a ddarperir naill ai gennych chi/eich asiant a'r rhai a ddarperir i chi gan drydydd parti, e.e. arolygon, barn arbenigol ac ati, ar gael ar-lein fel y gall pobl wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio. Weithiau, byddwn angen rhannu'r wybodaeth sydd gennym gydag adrannau eraill yn y Cyngor, er enghraifft, pan fyddwn angen sefydlu neu ymchwilio i faterion cynllunio penodol neu faterion eraill yn ymwneud â'r Cyngor. Rydym hefyd yn gofyn i sampl o ymgeiswyr gymryd rhan mewn arolwg dilynol, "sut wnaethom ni?" i weld sut allwn wella.
Golygiad ('sgrinio pethau')
Rydym yn gweithredu polisi lle rydym, fel rheol, yn sgrinio'r manylion a ganlyn cyn rhoi ffurflenni a dogfennau ar-lein:
● Manylion cyswllt personol yr ymgeisydd - e.e. rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost
● Llofnodion a ddarparwyd ar y ffurflen gais
● Data Categori Arbennig - e.e. datganiadau ategol sy'n cynnwys gwybodaeth am hanes meddygol, tarddiad ethnig, gwybodaeth ariannol neu fusnes
● Gwybodaeth y cytunwyd arni'n glir i fod yn gyfrinachol
Efallai y byddwn yn penderfynu ei fod yn angenrheidiol, yn gyfiawn ac yn gyfreithiol i ddatgelu'r data sy'n ymddangos
yn y rhestr uchod. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein bwriad cyn i ni
gyhoeddi unrhyw beth.
Os ydych yn cyflwyno gwybodaeth ategol yr hoffech iddi gael ei thrin yn gyfrinachol
neu'n dymuno ei hatal yn benodol o'r gofrestr gyhoeddus, rhowch wybod i ni cyn gynted ag y
gallwch - yn ddelfrydol, cyn cyflwyno'r cais. Y ffordd orau o gysylltu gyda ni ynglŷn â'r
mater yw cynllunio@gwynedd.llyw.cymru.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?'
Rydym yn prosesu llawer o wahanol fathau o wybodaeth ac mae'r cyfnodau cadw penodol.
Cwynion a phroblemau
Os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le neu fod rheswm yr hoffech i rywbeth beidio â chael ei ddatgelu, cysylltwch â ni i drafod eich pryderon drwy e-bostio:
cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
Os ydych angen gwneud cwyn yn benodol ynglŷn â'r modd yr ydym wedi prosesu eich data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor.