Fel rhan o'i swyddogaeth fel yr awdurdod bilio ar gyfer y sir, mae Cyngor Gwynedd yn casglu, yn prosesu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol er mwyn gweinyddu a gorfodi'r Dreth Gyngor.
Rydym hefyd yn defnyddio'r data yn ein cronfa ddata Treth Gyngor at ddibenion eraill, sy'n cynnwys ein swyddogaethau gorfodaeth statudol, ynghyd ag atal a chanfod twyll.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth yn fewnol os penderfynir bod hyn yn fuddiol i destun y data, a phan nad yw hyn yn gwrthdaro â'u hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
Sut ydym yn cael eich gwybodaeth
Daw'r wybodaeth amdanoch o’r ffynonellau a ganlyn:
- Yn uniongyrchol gennych chi
- Asiantaethau llywodraeth ganolog
- Awdurdodau lleol eraill
- Aelodau’r teulu
Pa wybodaeth bersonol ydym yn ei phrosesu a pham
Mae'r wybodaeth sy'n cael ei phrosesu amdanoch yn amrywio, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddarperir, ond bydd yn disgyn i'r categorïau a ganlyn:
- Gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni
- Nifer a statws yr oedolion eraill yn yr eiddo er mwyn penderfynu ar gymhwysedd ar gyfer disgowntiau ac eithriadau.
- Manylion am eich ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Manylion ariannol
- Manylion cyflogaeth, er mwyn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer ein Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor
Gwybodaeth am eich iechyd a lles a data arall categori arbennig
Er mwyn diwallu ein rhwymedigaethau statudol a chyfreithiol mewn perthynas â'r gwasanaethau hyn, efallai y bydd rhaid i ni brosesu data sensitif neu ddata "categori arbennig" amdanoch, allai gynnwys data sy'n ymwneud â:
- Manylion am iechyd corfforol neu iechyd meddwl i asesu a ydych yn gymwys ar gyfer disgowntiau neu eithriadau
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol
Yn dibynnu ar y gwasanaeth, rydym yn dilyn y sail gyfreithiol a ganlyn ar gyfer prosesu eich data o dan GDPR y DU:
- Erthygl 6(1)(e) ar gyfer perfformiad ein tasg gyhoeddus
Y ddeddfwriaeth berthnasol ydi:
- Treth Cyngor - Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
- Trethi Annomestig – Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Data categori arbennig
Pan fo'r wybodaeth sy'n cael ei phrosesu yn ddata categori arbennig, er enghraifft eich data iechyd, rydym yn dilyn y seiliau cyfreithiol ychwanegol a ganlyn:
- Erthygl 9(2)(g) am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol
Yn ogystal, rydym yn ddibynnol ar yr amodau prosesu yn Atodlen 1 rhan 2 Deddf Diogelu Data 2018 (DPA2018). Mae hyn yn ymwneud â phrosesu data categori arbennig ar gyfer:
- Dibenion statudol ac ati, a'r llywodraeth
Pa mor hir fyddwn ni'n cadw eich data personol
Yn unol â'n hamserlen gadw, gan fod modd addasu gwybodaeth am rwymedigaethau'r Dreth Gyngor yn ôl-weithredol at 1 Ebrill 1993, efallai y bydd angen cadw rhai manylion o'r dyddiad hwnnw. Byddwn yn adolygu'r data ar ôl chwe blynedd er mwyn sicrhau na chedwir unrhyw fanylion diangen.
Rhannu data
Wrth berfformio'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni rannu peth o'ch data personol gyda sefydliadau allanol.
Gallwn rannu gwybodaeth gyda sefydliadau o'r mathau a ganlyn:
- Swyddfa'r Cabinet – Y Fenter Twyll Genedlaethol, gweler yr adran gwybodaeth bellach
- Llywodraeth Cymru – y fenter twyll genedlaethol, gweler yr adran gwybodaeth bellach
- Llysoedd a gwasanaeth tribiwnlys EM
- Llywodraeth leol
- Yr Heddlu
- Cymdeithasau tai cymdeithasol
- Landlordiaid preifat
- Adran gwaith a phensiynau
- Cynghorwyr Budd-dal
- Mentoriaid cyflogaeth
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- Y Swyddfa Brisio
- Data Treth Cyngor y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) – gweler yr adran gwybodaeth bellach
- Gwirio Credyd – TransUnion (Call Credit)
- Sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Mewn rhai amgylchiadau, megis o dan orchymyn llys, mae'n ofyniad cyfreithiol i ni rannu gwybodaeth, a gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyda'r Heddlu ac asiantaethau gorfodaeth eraill at ddibenion atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau.
Yn ogystal, gallwn rannu gwybodaeth yn fewnol, er mwyn gwirio neu gadarnhau eich manylion personol, er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac wedi'u diweddaru.
Dim ond pan fyddwn o'r farn bod sail gyfreithiol a theg yn bodoli y bydd data a gedwir gan y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio gan adrannau eraill mewnol, e.e.
- Swyddogion twyll corfforaethol
- Swyddogion dyledion corfforaethol
- Swyddog asesiad ariannol (anghenion gofal)
- Adran gynllunio
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Adran Tai ac Eiddo
Sut ydym yn defnyddio proseswyr data?
Trydydd partïon sy'n darparu rhannau o'n gwasanaethau yw proseswyr data. Mae gennym gontractau gyda hwy, ac ni chaniateir iddynt wneud unrhyw beth gyda'ch data personol os nad ydym wedi gofyn iddynt wneud hynny. Isod rhestrir ein proseswyr data cyfredol ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Trethi
Prosesydd Data | Pwrpas | Hysbysiad Preifatrwydd |
Capita One Revenues and Benefits
(cyflenwr Capita)
|
Y system a ddefnyddir i weinyddu Treth Cyngor a Gostyngiadau Treth Cyngor |
Capita One - Hysbysiad Preifatrwydd |
Capita Intelligent Communications |
(CIC) Cyflenwr a ddefnyddir i anfon biliau treth cyngor a chyfraddau busnes, dogfennau adfer treth cyngor a chyfraddau busnes, hysbysiadau budd-daliadau, dogfennau Asesiadau Ariannol, llythyrau ceisiadau pellach a llythyrau cyfathrebu |
CIC - Hysbysiad Preifatrwydd |
Civica Digital Workflow 360 |
Y system a ddefnyddir i gadw gohebiaeth |
Civica - Hysbysiad Preifatrwydd |
Tel Solutions |
Cyflenwr a ddefnyddir i anfon negeseuon testun a negeseuon e-bost am gyfrifon treth cyngor sydd mewn dyled |
Tel Solutions - Hysbysiad Preifatrwydd |
TransUnion |
Gwirio Credyd |
TransUnion - Hysbysiad Preifatrwydd |
Trosglwyddo data personol
Nid oes data yn cael ei drosglwyddo dramor fel rhan o'r gwasanaeth hwn.
Gwneud Penderfyniadau Awtomataidd
Gallwn wneud rhai penderfyniadau awtomataidd i roi terfyn ar ddisgowntiau â chyfyngiad amser, eithriadau, neu brosesu mandad debyd uniongyrchol newydd, ac i gynorthwyo ag adfer incwm (adfer treth cyngor heb ei thalu). Mae gennych yr un hawl i apelio â phan fydd swyddog wedi gwneud y penderfyniad.
Gwybodaeth Bellach
Y Fenter Twyll Genedlaethol
Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir ganddo, a gall ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych neu ei rhannu â chyrff eraill at ddibenion atal a chanfod twyll. Mae hyn yn cynnwys cyfranogaeth yn Swyddfa'r Cabinet.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen isod: Y Fenter Twyll Genedlaethol
Data Treth Cyngor y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mae Treth Cyngor yn ffynhonnell allweddol am ystadegau am incymau ac anghydraddoldebau mewn perthynas ag aelwydydd. Er enghraifft, y Dreth Gyngor yw un o'r trethi uniongyrchol pwysicaf sy'n bwydo i Ystadegau Gwladol ar effeithiau trethi a budd-daliadau ar aelwydydd. Ar hyn o bryd, mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar ddata o arolygon, sy'n agored i gamgymeriadau wrth fesur a gwybodaeth goll (yn enwedig ar gyfer y Dreth Gyngor).
Mae darparu gwybodaeth weinyddol ar y Dreth Gyngor i'r SYG yn gwella ansawdd yr ystadegau yn sylweddol, ac yn lleihau'r baich ar ymatebwyr arolygon. Mae'r ystadegau hyn yn allweddol ar gyfer datblygu polisïau cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â thlodi a gwella safonau byw.
Mae'r Cyngor yn rhannu'r data personol a ganlyn gyda'r SYG:
- Enw
- Cyfeiriad (cyfeiriad personol neu fusnes ar gyfer trethi busnes)
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Enw’r cwmni neu'r busnes
- E-bost
- Rhif ffôn – personol a busnes (ar gyfer trethi busnes)
- Incwm/rhent yr aelwyd
- Data personol yr aelwyd – manylion am bob person yn yr aelwyd at ddibenion budd-daliadau
Mae'r SYG yn ei ddefnyddio ar gyfer:
- Adran Arolygon Cymdeithasol: Disodli'r cwestiynau yn ymwneud â'r Dreth Gyngor mewn pedwar arolwg cymdeithasol (Arolwg Amodau Byw, Arolwg Costau Byw a Bwyd, Arolwg Cyfoeth ac Asedau, Arolwg Adnoddau Teuluol), a ddefnyddir i gynhyrchu deilliannau ystadegol newydd a gwella deilliannau ystadegol cyfredol
- Tîm Cofrestr Cyfeiriadau: Creu a gwella'r gofrestr cyfeiriadau ar gyfer y Cyfrifiad
- Prisiau: Defnyddio i fesur prisiau'r Dreth Gyngor yn y Fynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai, a chyfrannu at is-elfennau aelwydydd wrth iddynt ddatblygu mynegai taliadau aelwydydd
- Data Gweinyddol y Cyfrifiad: Gwella deilliannau ymchwil poblogaeth drwy greu dangosydd gweithgaredd i'w ddefnyddio ar gyfer pobl a chyfeiriadau
- Methodoleg: Dyluniadau sampl effeithlon a gwella cywirdeb yr amcangyfrifon
- Adran Polisi Cyhoeddus: Gwella'r ystadegau am nifer yr eiddo newydd sy'n cael eu hadeiladu. Yn ogystal, cyfrannu at wella'r amcangyfrifon am y stoc tai drwy alluogi addasiad eiddo gwag is-genedlaethol, nad yw'n bosib ar hyn o bryd rhwng cyfrifiadau
- Rhaglen Newid y Cyfrifiad 2021: Help gyda'r gwaith cyfrif yn enwedig poblogaethau / ardaloedd daearyddol sy'n anodd i'w cyfrif. Sicrhau ansawdd a dilysu ymatebion ac amcangyfrifon y cyfrifiad, gwella cywirdeb amcangyfrifon y cyfrifiad (sicrhau bod pobl nad ydynt bellach yn byw'n y boblogaeth yn cael eu dileu) ac ychwanegu data coll ar gyfer pobl nad ydynt wedi ymateb i'r Cyfrifiad.
Y buddion i’r Cyngor o rannu'r wybodaeth yw:
- Gwell ystadegau ar lefel awdurdod
- Gwella'r gallu i adrodd ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill
- Gwell ystadegau ar fewnfudo a demograffig ar lefel awdurdod lleol
- Tystiolaeth ystadegol ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Ganolog
- Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddiddordeb hefyd ym mhotensial hirdymor y data hwn. Os gellir darparu'r data i'r SYG yn electronig, gall y SYG grynhoi a datgelu'r data i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol – gan arbed amser ac arian i awdurdodau lleol o beidio darparu'r data â llaw.
- Mudo cylchol yn y DU. Gellir cyflawni hyn drwy gyfateb data’r Dreth Gyngor gyda chyfresi data gweinyddol eraill yn y SYG, gan wella'r dystiolaeth ystadegol Adran 45A Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (a fewnosodwyd gan Adran 79 Deddf yr Economi Ddigidol 2017). Mae'n caniatáu i unrhyw awdurdod cyhoeddus ddatgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'u swyddogaethau i'r Bwrdd Ystadegau (SYG). Mae'r porth cyfreithiol hwn yn galluogi SYG i weithio ar y cyd gyda chyflenwyr data gan gynnwys y llywodraeth ac awdurdodau lleol.
Y seiliau cyfreithiol ar gyfer rhannu data'r Dreth Gyngor gyda'r SYG o dan GDPR y DU yw:
- Erthygl 6(1)(e) ar gyfer perfformiad ein tasg gyhoeddus
- Erthygl 9(2)(j) at ddibenion ystadegol er budd y cyhoedd