Cyngor Gwynedd yn cefnogi cynllun uchelgeisiol i ailddatblygu canol dinas Bangor
Dyddiad: 15/08/2023
Gall ailddatblygiad sylweddol o ganol dinas Bangor fod ar y gweill, wedi i Gyngor Gwynedd gymryd cam sylweddol ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer prosiect gwerth £20 miliwn fydd yn rhoi bywyd newydd i’r ardal.
Mewn cyfarfod diweddar, cefnogodd Aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd gynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles newydd yng Nghanolfan Menai yn y ddinas, trwy gydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd Lleol, Prifysgol Bangor ac eraill.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio i sicrhau ‘Cytundeb Opsiwn’ 18 mis ar yr adeilad, a fydd yn rhoi amser i’r partneriaid ddatblygu cynlluniau llawn ac achos busnes ar y prosiect uchelgeisiol a chyffrous, cyn ymrwymo i brydles tymor hir ar yr adeilad.
Wedi’r cyfnod hwn – os ydi’r partneriaid yn penderfynu bwrw ymlaen – y bwriad fydd cymryd les tymor hir ar yr uned 57,000 troedfedd sgwâr, sy’n cynnwys yr hen siop Debenhams.
Y nod ydi ail-bwrpasu a thrawsnewid y gofod presennol – nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn ar hyn o bryd – i ddarparu gwasanaeth iechyd a lles di-dor i bobl leol. Bydd hyn yn ddibynnol ar Gynllun Canolfan Iechyd a Lles Bangor yn cael ei gymeradwyo a phecyn ariannol cyflawn yn cael ei gadarnhau. Bydd y cynllun arloesol yn dod â gwasanaethau gofal iechyd ataliol, sylfaenol a chymunedol at ei gilydd yng nghanol y ddinas.
Daw y cam diweddaraf hwn yn y cynllun hirdymor i ailddatblygu canol dinas Bangor wedi cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Bangor a Chyngor Gwynedd.
Mae’r elfennau eraill yng nghlytwaith adfywio Bangor yn cynnwys:
- cynlluniau Prifysgol Bangor ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru newydd,
- cynlluniau i ailddatblygu Campws Gwyddoniaeth Ffordd Deiniol a chynlluniau i ddod â mwy o weithgarwch o safle’r Normal yn nes at ganol y ddinas,
- buddsoddiad tai a llety cymdeithasol,
- buddsoddiad mewn ysgolion lleol,
- mae trafodaethau yn parhau rhwng y Cyngor a Grŵp Llandrillo Menai ynglŷn â'r cyfleoedd i sefydlu peth o'u gweithgaredd yng nghanol y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn falch dros ben o allu gweithio gyda’n partneriaid ar y cynlluniau hynod gyffrous yma. Ein nod yw i'r Ganolfan Iechyd a Lles arfaethedig fod yn sbardun ar gyfer adfywiad ehangach canol dinas Bangor, gan ddod â swyddi i ganol y ddinas a rhoi hwb i faint o bobl sy’n ymweld â’r stryd fawr.
“Yn anffodus, mae Bangor – fel llawer o ddinasoedd llai eraill ar drwas y wlad – wedi dioddef yn sgil y newidiadau yn arferion siopa a hamddena pobl, sy’n ei gwneud hi’n anoddach adfer o effeithiau’r cyfnod Covid. Rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau yn helpu i roi bywyd newydd i ganol y ddinas a manteisio ar y cysylltiadau trafnidiaeth da.
“Mae pobol leol wedi dweud wrthon ni eu bod nhw’n poeni am Stryd Fawr Bangor a’r nifer o siopau gwag a’r diffyg gwasanaethau. Fel Cyngor, rydym yn benderfynol o sicrhau bod y ddinas hanesyddol hon yn parhau i fod yn lle bywiog ar i’r genhelaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol i fyw, astudio, gweithio ac ymweld â hi.”
Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gethin:
“Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu Cymru decach, mwy gwyrdd a mwy llewyrchus. Mae sector manwerthu wedi ei diogelu gyda chysylltiadau cryf â chanol ein trefi a’n dinasoedd yn rhan hanfodol o’r weledigaeth honno. Felly braf oedd ymweld â Bangor i gwrdd â Chyngor Gwynedd ac eraill i glywed am eu dull partneriaeth o ddod â bywiogrwydd o’r newydd i ganol y ddinas.
“Rwy’n falch o weld bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod ystod newydd o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng nghanol y ddinas, fel rhan o ymdrechion i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant yn sector manwerthu’r ddinas. Mae’n arbennig o braf gweld Cyngor Gwynedd yn cymryd camau pwysig i sicrhau defnydd newydd ar gyfer safleoedd canol dinas sy’n cael eu tanddefnyddio. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd eu cynlluniau’n datblygu dros y misoedd nesaf.”
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r fenter hon. Mae'r Brifysgol yn dod â miloedd o fyfyrwyr a staff i'r ddinas. Mae ein campws yn esblygu’n gyson ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r amgylchedd gorau posib i’n myfyrwyr, staff, a’n cymuned leol.
“Bydd datblygiadau cyffrous megis sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, datblygu’r campws gwyddoniaeth ar Ffordd Deiniol a gwella ein hystâd yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio canol y ddinas ac yn gweddu’n ardderchog i ddatblygiad y Ganolfan Iechyd a Lles newydd.”
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor ar y datblygiad newydd cyffrous hwn yng nghanol Bangor.
“Er mai dim ond yn y cyfnod cynllunio cynnar ydym ni, rydym yn gobeithio y bydd y datblygiad hwn yn dod ag ystod o wasanaethau iechyd i’r ddinas. Byddai hyn yn cynnwys meddygon teulu, nyrsys cymunedol, ymwelwyr iechyd, bydwreigiaeth, gwasanaethau plant, therapi a iechyd meddwl yn ogystal â’r sector wirfoddol.”
Dywedodd Rob Lloyd o Bearmont, perchnogion Adeilad Canolfan Menai: “Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno newidiadau cadarnhaol i'r ddinas. Ers prynu Canolfan Menai, rydym wedi sicrhau sawl tenant newydd cyffrous yn y maes manwerthu.
“Mae gan y Ganolfan Iechyd y potensial i drwsnewid Bangor a'r ardaloedd cyfagos. Bydd sefydlu Canolfan Iechyd newydd nid yn unig yn denu swyddi i ganol y ddinas ac yn cryfhau'r economi leol ond bydd hefyd yn lleddfu'r pwysau ar ysbytai presennol, gan gyfrannu at wella gwasanaethau gofal iechyd i bobl leol. Mae'r Awdurdod Lleol a'n tîm datblygu yn rhannu gweledigaeth gyffredin ar gyfer adfywio'r ardal leol ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos i sicrhau bod dymuniadau ac anghenion y gymuned leol yn cael eu diwallu."
Dywedodd John Wynn Jones, Cadeirydd Partneriaeth Strategol Bangor: “Dwi'n hynod falch o'r datblygiad diweddar efo'r Hwb Feddygol. Rwyf yn edrych ymlaen i weld hyn yn deillio ar sbardun i fywiogi a gwneud canol y Ddinas yn lle atyniadol unwaith yn rhagor.”