Trefniadau ffyrdd a theithio ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Dyddiad: 01/08/2023
Gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, mae Cyngor Gwynedd, trefnwyr yr Eisteddfod a Heddlu Gogledd Cymru yn atgoffa pobl leol bydd y ffyrdd yn brysur ac oedi yn debygol yn yr ardal dros gyfnod yr ŵyl.
Mae’r Cyngor, yr Eisteddfod a’r Heddlu yn galw ar Eisteddfodwyr – boed rheini yn bobl leol neu’n bobl sy’n teithio o rannu eraill o Gymru a thu hwnt – i gynllunio eu trefniadau teithio o flaen llaw ac i ddilyn y cyfarwyddiadau ffordd fydd mewn lle. Mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa i gymryd pwyll os yn gyrru yng nghyffiniau’r Maes ac i fod yn wyliadwrus o gerddwyr ar y lôn.
Er mwyn sicrhau llif traffig, ac er budd diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd a chymunedau lleol, bydd trefniadau traffig dros dro mewn lle a bydd arwyddion clir wedi eu gosod yn yr ardaloedd ble mae’r mesurau hyn yn weithredol. Bydd rhai ffyrdd bychan ar gau yn ogystal.
Gofynnir yn garedig i bawb barchu’r trefniadau dros dro am y cyfnod byr bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal. Bydd y trefniadau dros dro hyn yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y ffordd fawr, nid pobl sy’n mynd i’r Eisteddfod yn unig.
Cyrraedd yr Eisteddfod
Caniatewch ddigon o amser i deithio, yn enwedig os bydd angen ichi gyrraedd mewn pryd ar gyfer cystadleuaeth neu ddigwyddiad penodol.
- Gyrru o’r de (Porthmadog) – Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar y B4354 ar gylchfan Afonwen, trwy Chwilog, ac ymlaen i’r Ffôr. Croeswch y groesffordd ar y goleuadau dros dro yng nghanol Y Ffôr. Ewch ymlaen ar hyd y B4354 at y gyffordd â’r A497 a trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd nes y cyrhaeddwch y maes parcio.
- Gyrru o’r dwyrain (Caernarfon) – Dilynwch yr A499 i’r Ffôr a throwch i’r dde ar y goleuadau dros dro yng nghanol y pentref. Ewch ymlaen ar hyd y B4354 i’r gyffordd gyda’r A497. Trowch i’r chwith ar yr A497 a dilynwch y ffordd nes y cyrhaeddwch y maes parcio.
- Parcio – Mae parcio am ddim yn yr Eisteddfod.
- Gyrwyr gyda bathodyn glas – Dylai ymwelwyr anabl sydd â bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i’r maes parcio anabl.
Ffyrdd ar gau
Bydd y ffyrdd isod ar gau o ddydd Gwener, 4 Awst hyd nes diwedd yr Eisteddfod:
- Penlôn Llŷn, Pwllheli – Bydd y ffordd ar gau rhwng y gyffordd â Ffordd Efailnewydd (A497) hyd at y gyffordd gyda Stryd Moch, Pwllheli.
- Tair lôn fach ym Moduan:
- Bydd y ffordd ddi-ddosbarth rhwng Eglwys Beuno Sant heibio Bryn Eglwys hyd at lwybr Llannor (Rhif 33) ar gau o’r gyffordd gyferbyn â Cae Llan i Penlôn Caernarfon (A499).
- Bydd y ffordd ddi-ddosbarth ym Moduan ger Plas Boduan ar gau o’i gyffordd gyda’r B4354 hyd at y gyffordd gyferbyn â Refail, Boduan.
- Bydd y ffordd dosbarth III ym Moduan ar gau o’r gyffordd gyferbyn â Refail, Boduan hyd at y gyffordd gyda’r ffordd o’r gyn feddygfa i’r gogledd o’r B4354, Nefyn.
Bydd hawl gan breswylwyr i fynd a dod i’w heiddo yn ôl yr arfer drwy gydol yr amser bydd y ffyrdd ar gau.
Mae posibilrwydd y bydd ffyrdd ychwanegol yn cael eu cau ar fyr-rybydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a hynny oherwydd rhesymau diogelwch i breswylwyr lleol a defnyddwyr y ffordd fawr.
Llwybr troed ar gau
Bydd y llwybr cyhoeddus yn Cwnhinger, Llannor ar gau, sef Llwybr Cyhoeddus Rhif 11.
Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros wasanaethau Priffyrdd:
“Mae’r cynnwrf am yr Eisteddfod yn codi stêm ac mae’n braf gweld ein cymunedau yn paratoi i groesawu Cymru a’r byd i Lŷn ac Eifionydd. Fel Cyngor, rydym wedi bod yn gweithio gyda trefnwyr yr Eisteddfod, Heddlu Gogledd Cymru a’n partneriaid eraill ar drefniadau ffordd penodol fydd yn helpu gwneud yn siŵr fod y traffig yn llifo gymaint a phosib ac i sicrhau diogelwch pawb.
“Os ydych angen teithio yn ardal yr Eisteddfod er mwyn mynd i’r gwaith, i apwyntiadau, i wneud neges ac ati cofiwch mae’n debygol bydd y ffyrdd yn brysur felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser ar gyfer unrhyw siwrne, gorau oll wrth gwrs os gallwch wneud trefniadau amgen o flaen llaw.”
Ychwanegodd Prif Uwcharolygydd Neil Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn galw ar bawb fydd yn yr ardal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst – yn Eisteddfodwyr neu beidio – i gymryd pwyll ar y ffyrdd a dilyn y cyfarwyddiadau. Bydd arwyddion melyn amlwg yn dangos y ffordd i’r Eisteddfod, ac os bydd pawb yn eu dilyn byddwn yn gallu rheoli’r llif traffig yn fwy effeithiol er budd pawb.”
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a rydym wedi gweithio ar drefniadau manwl er mwyn sicrhau y bydd pawb yn cyrraedd y Maes yn ddiogel a mor ddi-ffwdan a phosib. Unwaith byddwch yn cyrraedd y Maes, dilynwch gyfarwyddiadau’r stiwardiaid, maen nhw yno i’ch helpu chi i gyrraedd a gadael y maes parcio yn esmwyth a chyfleus.
“Fel partneriaid, rydym yn ddiolchgar am amynedd pobl leol wrth iddynt ymdopi â’r pwysau traffig ychwanegol a’r trefniadau ffyrdd dros dro.”