Arddangosfeydd newydd yn Storiel
Dyddiad: 06/02/2023
21 Ionawr – 25 Mawrth
LAURENCE GANE
anfodlonrwydd
Casgliad o ffoto-destunau o gyfnod clo 2021 yn cynnig rhai agweddu sardonig/eironig/dystopaidd ar ddelweddau a gymerwyd o ddiwylliant poblogaidd, teledu a bywyd y ddinas. Gyda bygythiadau tywyll i’n dyfodol a’n bodolaeth fel rhywogaeth, mae’r delweddau hyn yn cynnig symptomau o’n cyfyng-gyngor.
Mae Laurence Gane wedi gweithio mewn ffilm, ffotograffiaeth, theatr, cerddoriaeth, athroniaeth ac astudiaethau diwylliannol. Roedd yn un o sylfaenwyr y London Film-makers' Co-Op.
Mae ei lyfr poblogaidd 'Introducing Nietzsche' bellach ar ei bedwerydd argraffiad.
Mae'r casgliad hwn o ffoto-destunau o gyfnod clo 2021 yn cynnig rhai agweddau sardonig/eironig/dystopaidd ar ddelweddau a gymerwyd o ddiwylliant poblogaidd, teledu a bywyd y ddinas.
Mae datblygiad technoleg ddigidol wedi chwalu ein perthnasoedd cymdeithasol, ond erbyn hyn ymddengys mai hyn yw'r lleiaf o’n pryderon.
Mae pandemigau, rhyfel a newid hinsawdd yn peri bygythiadau llawer tywyllach i’n dyfodol a’n bodolaeth fel rhywogaeth, gan achosi pryder, colli cwsg ac yn y blaen.
Mae'r delweddau hyn yn darparu symptomau o'n cyfyng-gyngor.
Tynnwyd pob delwedd gyda ffôn symudol gan ddefnyddio'r golau oedd ar gael - dim golygu digidol.
//////////////////
21 Ionawr – 25 Mawrth
Ysbrydoli | Ymateb
Dyma waith celf gan ddeunaw artist gwahanol o gasgliad celf Prifysgol Bangor. Maent yn cynrychioli peth o’r amrywiol fath o baentiadau sydd yn y casgliad. O dirluniau ffigurol a phortreadau i fywyd llonydd a mynegiant haniaethol, gwelwch pa waith sydd yn eich ysbrydoli chi.
Gwahoddwyd arlunwyr ifanc hefyd i gael eu hysbrydoli ac i ymateb i’r dewisiad yma o baentiadau. Caiff eu gwaith celf hwy eu harddangos yma gyda’r lluniau gwreiddiol yn ystod hanner olaf yr arddangosfa.
Casgliad Celf Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn geidwad i nifer o gasgliadau amgueddfa pwysig a ffurfiwyd pan sefydlwyd y Brifysgol yn 1884. Mae’r casgliadau yn amrywiol yn eu hanian gan gynnwys celf gain. Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor yn y deg uchaf o’r goreuon gan Brifysgolion ym Mhrydain, ynghyd a’r Barber Institute, Birmingham a chasgliad Whitworth, Manceinion.
Mae’r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau yn dyddio o’r 17eg i’r 21ain ganrif. Ynddo mae cynrychiolaeth dda o arlunwyr o Gymru gan gynnwys Brenda Chamberlain, David Jones, Edward Povey, Peter Prendergast, Gwilym Pritchard, Ceri Richards, Will Roberts, Evan Walters, Catrin Webster, Claudia Williams a Kyffin Williams. Cynnwys y casgliad hefyd baentiadau gwerthfawr gan arlunwyr Prydeinig ag Ewropeaidd. Rhai o’r uchafbwyntiau yw cymynrodd William Evans sy’n cynnwys paentiadau gan arlunwyr Prydeinig megis Paul Nash ac Edward Wadsworth a chyfres o dirluniau o ogledd Cymru gan Frederick William Hayes. Mae’r casgliad yn gyfuniad o roddion, cymynroddion a phryniant.
Mae’r casgliad yn creu ased artistig a diwylliannol i’r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Caiff rhai o’r gweithiau eu dangos mewn amryw o ofodau cyhoeddus oddi fewn adeiladau’r Brifysgol lle bydd staff a myfyrwyr yn gallu eu mwynhau. Bydd teithiau tywys yn cael eu rhaglennu yn y gwanwyn a’r hydref.
Brenda Chamberlain • A.S.Craig • Anthony Goble • Frederick Hayes • Robert Hunter
Selwyn Jones • David Kinmont • Winifred Nicholson • Wendy Noel • Edward Povey
Thomas Roland Rathmell • Brian Rees • William Selwyn • Andrew Smith
Edward Wadsworth • Acwila Williams • Claudia Williams • David Woodford
/////////////////
YNYSGAIN
Cynnwys yr oriel hon ddetholiad o ddodrefn ag eitemau cysylltiol o gasgliad Storiel gan roi cyfle i weld rhai eitemau o’r casgliad wrth gefn nad yw yn arferol ar arddangos.
Mae’r dodrefn yma yn bennaf o Ynysgain Uchaf ger Cricieth, Dwyfor. Gadawyd y dodrefn o Ynysgain i’r Amgueddfa gan y Fns. Anne Eaden, cyfeilles a chymdeithes i’r Fns. Dorothea Pughe-Jones, yr olaf o deulu’r Jonesiaid i fyw yn Ynysgain. Bu i’r teulu drigo yno ers 1669, ond mae’r tŷ ei hun ychydig yn hŷn gan fod cofnod o guddio aur yn un o’r muriau yn 1646 yn ystod y Rhyfel Cartref.
Mae’r darnau yn gymysgfa o ddodrefn derw traddodiadol sy’n nodweddiadol o nifer o ffermdai'r ardal a darnau egsotig o ddylanwad arddull Ewropeaidd. Mae hyn yn adlewyrchu cyfoeth y teulu a’u gallu i brynu dodrefn o bell. Cafodd nifer o ddarnau eu comisiynu yn lleol gan grefftwyr lleol i gwrdd â’u hanghenion.
Mae’r casgliad yma’n arwyddocaol wrth i fywydau’r teulu Jones fod ynghlwm ar eitemau gyda phob darn yn rhan o draddodiad a hanes. O’r dresel Cymreig traddodiadol i flwch y Beibl o’r 1700au, dywed y casgliad hwn ei hanes ei hun o fywyd cefn gwlad Cymru drwy’r cenedlaethau.
Cewch weld mwy o ddodrefn yn oriel Ein Casgliadau ac oriel Bywyd a Gwaith yr amgueddfa.
Ganed Dorothea Pughe-Jones (Ynysgain) yn 1875 a graddiodd o Brifysgol Rhydychen. Roedd yn ysgrifennwr dawnus gan ysgrifennu yn gryno ‘History of Wales’ yn 1901, ag ennill gwobr Eisteddfod am hyn. Yn 1901 roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Pleidlais i Ferched Bangor a’r Cyffiniau. Ymunodd â’r VAD (Voluntary Aid Detachment) Mintai Cymorth Wirfoddol o 1914-1919 i ddarparu cymorth meddygol yn ystod y Rhyfel, gan wirfoddoli yn Ffrainc. Yn ddiweddarach cafodd ei gwobrwyo gyda’r MBE am ei gwasanaeth.
//////////
4 Chwefror - 15 Ebrill
Golwg ar Orllewin Affrica o Gymru
Curadwyd yr arddangosfa hon gan Dr Ffion Mair Jones o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (Y Ganolfan Geltaidd) mewn cydweithrediad â’r artist Mfikela Jean Samuel a Storiel, Bangor. Man cychwyn y cydweithio rhwng y ddau brif chwaraewr oedd gweithdy a drefnwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyfoethogi amrywedd cyfranwyr i’r Bywgraffiadur Cymreig. Y mae’r arddangosfa’n rhan o brosiect a ariennir gan Rwydwaith Arloesi Cymru (RhAC), mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich. Archwilia’r prosiect adroddiad ynghylch Gorllewin Affrica a gynhyrchwyd gan Thomas Pennant fel rhan o’i waith anghyhoeddedig, ‘Outlines of the Globe’.
Gallwch ddarganfod rhagor ynghylch gwaith Mfikela Jean Samuel at https://mfikelajeansamuel.org
Am ragor o wybodaeth ynghylch bywyd a gwaith Thomas Pennant ewch i https://curioustravellers.ac.uk