Dathlu llwyddiant prentisiaid Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 06/02/2023
Mae Cynllun Prentisiaeth Cyngor Gwynedd yn dathlu llwyddiant tair prentis sydd wedi sicrhau swyddi llawn amser yn y Cyngor.
O dan y cynllun, derbyniodd Lia Jones, Elliw Jones Evans a Megan Owen-Jones gefnogaeth i ddysgu a gweithio'r un pryd, yn ogystal â derbyn cefnogaeth gan dîm Prentisiaethau Cyngor Gwynedd, eu rheolwyr a’u cydweithwyr.
Bu i Lia ddechrau fel prentis yn y maes Diogelwch Seibr yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth tra’n astudio am radd Diogelwch Seibr drwy Brifysgol Bangor. Mae Lia bellach wedi derbyn swydd llawn amser fel peiriannydd rhwydwaith yn y gwasanaeth hwnnw.
Dywedodd Gwyn Jones, rheolwr system Isadeiledd
‘Fel Prentis Gradd Ddigidol, Seibr Ddiogelwch, mae Lia wedi ymdrochi’n llwyr yn ei rôl fel aelod tîm gwerthfawr, yn gweithio’n agos efo’n peirianwyr ac aelodau eraill TG. Mae hi yn cael cyfle i weithio yn annibynnol gyda chefnogaeth peirianwyr a datblygwyr profiadol ac yn magu sgiliau a hyder yn ddyddiol’
Dechreuodd Elliw fel prentis Cyfyngau Cymdeithasol a Marchnata i Byw’n Iach. Mae Elliw bellach wedi derbyn swydd fel Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu i Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a YGC.
Dywedodd Elliw :
“Mae’r broses wedi bod yn hollol wych, dw i wedi gweithio ar sawl peth gwahanol ac wedi cael blas o bob dim. Mae bod yn brentis wedi rhoi cyfle i mi fod yn greadigol a datblygu sgiliau busnes hefyd. Mae’r gefnogaeth dwi wedi dderbyn gan gydweithwyr a’r tîm prentisiaethau wedi bod yn rhyfeddol.”
Ar ôl astudio Prentisiaeth Busnes a Gweinyddiaeth, mae Megan Owen-Jones bellach wedi derbyn swydd fel Swyddog Gweinyddol Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mi fydd Megan yn cael cyfle i ddatblygu ymhellach yn rhinwedd ei swydd newydd wrth gwblhau cymhwyster uwch dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Megan
”Yn ogystal â’r gwaith o ddydd i ddydd a’r cymhwyster, fe ges i hefyd gyfle i wneud cyrsiau datblygol ychwanegol - fel y Cwrs Asesiad gweithfan, Cwrs Marsial Tân a chwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae amser wedi hedfan! ‘Dw i wedi cael gymaint o brofiadau gwahanol. Mae’r profiad wedi bod yn wych ac wedi fy helpu yn arbennig i ddeall mwy am yr ochr fusnes.”
Dywedodd y Cynghorydd Menna Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am maes datblygiad staff:
“Llongyfarchiadau i’r dair am gymryd y cam yma ac am lwyddo i sicrhau swyddi llawn amser. Llongyfarchiadau hefyd i bawb sydd wedi eu cefnogi ar hyd y daith.
“Mae Cyngor Gwynedd yn ymfalchïo mewn datblygu talent newydd ac yn blaenoriaethu bod llwybrau gyrfa llewyrchus ar gael i bobl leol heb orfod gadael eu cynefin.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa drwy brentisiaeth gyda’r Cyngor i gymryd golwg ar ein gwefan i weld pa gyfleon sydd ar gael.”
Os oes gennych chi, neu rhywun rydych yn ei adnabod, ddiddordeb mewn bod yn brentis gyda Cyngor Gwynedd yn 2023, bydd y cyfleoedd newydd yn cael ei hysbysebu o ddiwedd fis Chwefror ymlaen.
I wybod mwy am y cynllun ewch i’n gwefan
Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i chi? (llyw. Cymru) neu dilynwch ni ar
Facebook ac
Instagram.