Gwasanaethau bws newydd i roi hwb i rwydwaith trafnidiaeth Gwynedd
Dyddiad: 13/02/2024
Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn cyhoeddi y bydd bysiau trydan newydd sbon i gefnogi teithio cynaliadwy yng Ngwynedd yn dechrau gweithredu heddiw (dydd Llun 12 Chwefror).
Bydd y T22 newydd TrawsCymru yn darparu gwasanaeth pob awr rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, a phob dwy awr rhwng Porthmadog a Chaernarfon.
Yn ogystal, bydd gwasanaeth y T2 TrawsCymru yn parhau i weithredu rhwng Aberystwyth a Bangor gan wasanaethu hybiau allweddol yn cynnwys Caernarfon, Dolgellau, Porthmadog a Machynlleth.
Bydd fflyd drydan o'r radd flaenaf y T22 yn cynnig teithiau tawelach i deithwyr, gyda chyfleusterau gwefru diwifr, porth USB ger pob sedd a sgriniau a chyhoeddiadau fydd yn dangos pob man y bydd y bws yn galw.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Lee Waters: “Mae hyn yn newyddion gwych. Mae’r gwasanaeth bws T22 newydd sy’n cynnwys bysiau trydan newydd o’r radd flaenaf, yn ychwanegiad pwysig i drafnidiaeth gyhoeddus yn y rhan hon o Gymru ac ochr yn ochr â gwasanaethau eraill sy’n rhedeg yng Ngwynedd, bydd yn helpu i gysylltu cymunedau gwledig tra’n annog mwy o bobl i wneud eu siwrneiau ar y bws a gadael eu ceir gartref.”
Bydd gwasanaethau fflecsi newydd yn Nolgellau a Machynlleth hefyd yn dechrau gweithredu yn fuan, gan ymuno â gwasanaeth tymhorol poblogaidd Penrhyn Llŷn, sy'n ail-ddechrau fis Mawrth. Mae’r gwasanaethau yma yn gwella cysylltiadau teithio ymlaen ac yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.
Gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn denu miloedd o ymwelwyr pob blwyddyn, bydd y gwasanaethau newydd hyn yn cynnig hwb ychwanegol i'r gwasanaethau rheilffyrdd presennol a rhwydwaith bysiau Sherpa'r Wyddfa sydd wedi ennill gwobrau wrth annog twristiaeth gynaliadwy a lleihau nifer y teithiau a wneir mewn car.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Rydw i’n hynod falch fod y bysiau trydan cyntaf yn cael eu cyflwyno ar ein prif rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Ngwynedd. Bydd y gwasanaeth T22 newydd yn cynnig mwy o opsiynau teithio ar hyd llwybr Blaenau Ffestiniog i Borthmadog ac ymlaen i Gaernarfon, gyda manteision amgylcheddol sylweddol.
“Fel Cyngor, rydym wedi bod ynghlwm ac wedi arwain sawl agwedd o ddatblygu prosiect y T22, o ddatblygu ac adeiladu’r seilwaith gwefru ar gyfer y bysiau newydd a chaffael a hyrwyddo’r gwasanaeth ei hun.
“Ond yn bwysig, mae hefyd yn amlygu’r hyn y gellir ei gyflawni wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau newydd a chyffrous gyda nifer o bartneriaid yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol: “Pleser yw gweithio gyda Chyngor Gwynedd i gefnogi cyflwyno'r llwybr ychwanegol hwn i rwydwaith TrawsCymru ynghyd â dau wasanaeth fflecsi newydd, bydd yn darparu gwell mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gwell integreiddio rhwng bysiau a dulliau trafnidiaeth eraill.”
“Gwyddom bod y rhan hon o Gymru yn hynod boblogaidd gyda thwristiaid hefyd felly bydd y gwasanaethau ychwanegol hyn yn cynnig mwy o gyfleoedd i bobl adael eu ceir gartref a theithio ar y bws pryd bynnag y bo modd.”
Dywedodd Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Llew Jones International: “Rydym yn falch iawn o fod ar flaen y gad o ran arloesi a chynaliadwyedd yn y sector trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae cael contract bysiau trydan T22 TrawsCymru nid yn unig yn arwydd o gyflawniad sylweddol i'n cwmni ond mae hefyd yn tanlinellu ein hymroddiad i ddarparu atebion trafnidiaeth eco-gyfeillgar ac effeithlon i'r cymunedau a wasanaethwn.”