Newyddion da i ddwy ysgol gynradd ym Mangor
Dyddiad: 17/04/2024
Bydd buddsoddiad o dros £13 miliwn yn cael ei wneud i addysg gynradd ym Mangor, wedi i Gyngor Gwynedd lwyddo i sicrhau cyllid i drawsnewid dwy ysgol yn y ddinas.
Bydd disgyblion a staff Ysgol Ein Harglwyddes yn cael ysgol newydd sbon ar safle newydd tra bydd Ysgol Hirael yn cael ei thrawsnewid, fel y bydd y ddwy ysgol yn gallu darparu addysg gyda’r adnoddau dysgu gorau posib wrth galon y gymuned.
Bydd swyddogion o Gyngor Gwynedd rŵan yn symud ymlaen efo’r cynlluniau cyffrous fydd yn helpu i sicrhau bod plant lleol yn cael cyfleoedd dysgu a phrofiadau cymdeithasol cyfoethog mewn adeiladau modern sy’n cwrdd â gofynion y cwricwlwm.
Ysgol Ein Harglwyddes – Mae’r Cyngor wedi sicrhau £7.7 miliwn (85% o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a 15% gan Esgobaeth Wrecsam yr Eglwys Gatholig) er mwyn codi ysgol newydd fydd yn cynnig addysg Gatholig ym Mangor ar hen safle Glanadda yn y ddinas.
Mae’r ysgol bresennol mewn cyflwr gwael a bydd yr adeilad newydd yn gartref llawer mwy addas ar gyfer y 150 o ddisgyblion, eu hathrawon a’u cymorthyddion dosbarth. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys darpariaeth feithrin yn ogystal â chyfleusterau Blynyddoedd Cynnar.
Ysgol Hirael – Bydd £5.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid yr ysgol, gyda bron i £3.6 miliwn yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a’r gweddill yn arian cyfatebol gan Gyngor Gwynedd.
Bellach, mae’r estyniadau a godwyd yn y 1970au wedi dod i ddiwedd eu hoes ac nid yw'n gost effeithiol i’w hadnewyddu. Bydd y gwelliannau yn cynnwys gwaith ail-fodelu mewnol i’r gegin, y neuadd a rhai o’r ystafelloedd dosbarth ac adeiladu estyniad newydd ynghyd â sicrhau gwelliannau i’r buarth, er sicrhau gofod addas ar gyfer y 210 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol.
Bydd cynllunio gofalus yn golygu y bydd yr ysgol yn parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith adeiladu, gyda’r gobaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2026. Bydd cyfle i rieni, gwarcheidwad, staff yr ysgol a’r gymuned lleol weld cynlluniau o’r estyniad newydd a’r gwaith mewnol i’r adeilad presennol cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau mewn sesiwn galw heibio gyda swyddogion o’r Cyngor a’r contractwr llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
“Mae hyn yn newyddion da iawn i’r disgyblion a’r staff, i gymunedau’r ddwy ysgol ac i ddinas Bangor yn ehangach.
“Ein nod ydi gwneud yn siŵr fod gan holl blant y sir fynediad at gyfleusterau addysg modern ac addas. Mae sicrhau hynny i blant Bangor a’r cylch ar y cam yma yn destun balchder i mi ac yn gymorth i alluogi’r disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial.
“Mae’r ddwy ysgol bresennol wedi dyddio a thrwy’r buddsoddiad yma bydd y ddwy ysgol yn cynnig amgylchedd brafiach a mwy modern. Bydd ysgolion Hirael ac Ein Harglwyddes hefyd yn sefydliadau mwy eco-gyfeillgar gan y byddant yn defnyddio llai o ynni ac yn cynhyrchu llai o garbon.
“Dymunaf ddiolch i’r athrawon a’r llywodraethwyr am eu cydweithrediad er mwyn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon ac edrychaf ymlaen yn fawr i weld y plant yn cael y budd o’r cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil hyn.”
Meddai'r Gwir Barchedig Peter M Brignall, Esgob Wrecsam:
“Rwyf wrth fy modd o glywed y newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cais i ariannu Ysgol Ein Harglwyddes newydd ym Mangor. Mae'r prosiect cyffrous hwn o gael adeilad ysgol newydd ym Mangor yn bennod newydd yn hanes Addysg Gatholig yn y Ddinas, sydd wedi bodoli ers 145 o flynyddoedd.
“Bydd yr adeilad a’r cyfleusterau newydd ar gyn-safle Ysgol Glanadda yn ehangu'r cyfleoedd a'r adnoddau dysgu yn fawr i'n pobl ifanc a'r teuluoedd sy'n dewis ethos sy'n seiliedig ar grefydd ac ethos Gatholig ar gyfer addysg eu plant.
“Mae'r ysgol newydd yn brawf o'r bartneriaeth lewyrchus sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a'r Eglwys Gatholig. Rwyf yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a phawb arall, yn yr ysgol a thu hwnt, sydd wedi gweithio i gyflawni'r canlyniad hwn.”