Dathlu adnoddau gwyrdd Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda
Dyddiad: 20/07/2023
Yn ddiweddar cafwyd agoriad swyddogol adnoddau newydd yn un o Lyfrgelloedd Gwynedd sy’n mynd ymhell tu hwnt i’r hyn sydd i’w ddisgwyl o lyfrgell draddodiadol.
Mae’r gwelliannau i Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda yn cynnwys creu gardd lesiant yng nghefn y llyfrgell yn ogystal â datblygiad Llyfrgell y Pethau. Mae hyn oll wedi bod yn bosib diolch i grant o Gronfa Cyfalaf Trawsnewid Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r cynllun, trawsnewidiwyd y gofod tu allan i fod yn atyniadol a chyfforddus i ddefnyddwyr, gyda chymorth Dyffryn Gwyrdd – prosiect cymunedol sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd a’r amgylchedd – fu’n gyfrifol am y dyluniad a’r plannu; a chriw'r Sied Cyn-Filwyr – sef lle i gyn-bersonél y lluoedd arfog greu cysylltiadau, ffrindiau a magu sgiliau – o ran y gwaith tirlunio.
Bydd yr ardd lesiant yn ychwanegiad gwerthfawr i’r llyfrgell ac yn ofod sy’n tanlinellu pwysigrwydd edrych ar ôl yr amgylchedd a rhoi lle i natur, yn ogystal â darparu gofod llesol i bobl allu mwynhau, myfyrio ynddo, cael tawelwch a darllen.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Llyfrgelloedd: “Mae hi mor braf gweld y datblygiadau hyn yn digwydd yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen a gobeithiwn y bydd yn cael croeso gan ein defnyddwyr.
“Dwi’n deall fod yr ardd newydd bellach yn edrych yn fendigedig ac yn le braf i ddefnyddwyr y llyfrgell allu eistedd a mwynhau tywydd braf, yn ogystal â chynnig gofod hwylus ar gyfer gweithgareddau plant. Mae’r planhigion newydd wedi cymryd eu lle yn dda yn y gwelyau, ac yn rhoi gwledd i’r synhwyrau o ran lliw, oglau a theimlad.”
Fel rhan o’r prosiect gwella, gosodwyd silffoedd pwrpasol yn y llyfrgell i gartrefu eitemau fydd yn cael eu benthyg fel rhan o’r prosiect Llyfrgell y Pethau.
Mae ‘Petha’ yn brosiect newydd yng Ngwynedd sydd yn ceisio sefydlu Llyfrgell y Pethau mewn tair cymuned ledled y sir, sef Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Bro Ffestiniog, mewn cydweithrediad rhwng Benthyg Cymru, Dolan a Chyngor Gwynedd.
Eglurodd Catrin Wager, Swyddog Datblygu Gogledd a Gorllewin Cymru Benthyg: “Mae’r syniad tu ôl i Petha yn syml – mae modd benthyg pethau bob dydd a thrwy fenthyg a rhannu yn hytrach na phrynu, gallwn arbed arian, arbed gofod yn y cartref, lleihau gwastraff a lleihau ein ôl-troed carbon. Mae Petha yn brosiect arloesol gan ei fod yn cyd-leoli Llyfrgell Pethau mewn llyfrgell draddodiadol, ac yn dangos sut y gall Awdurdodau Lleol weithio ar y cyd â chymunedau i weithredu dros drigolion, a dros ein planed."
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae naws gartrefol iawn i’r llyfrgell a gwn fod pobl yn gwerthfawrogi’r croeso a’r gwasanaeth da gan holl staff. Hoffwn ddiolch hefyd i staff Partneriaeth Ogwen a’r Dyffryn Gwyrdd am eu holl gymorth a chefnogaeth tuag at y ddarpariaeth o Wasanaeth Llyfrgell ym Methesda.”
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen a holl lyfrgelloedd Gwynedd, ewch i https://linktr.ee/LlyfgerllGwyneddLib