Dyluniad disgybl o Wynedd yn annog gyrwyr i arafu
Dyddiad: 21/08/2023
Bydd dyluniad gan ddisgybl ysgol o Wynedd i’w weld ar arwyddion ffyrdd ar hyd a lled Cymru, wedi iddo ennill cystadleuaeth genedlaethol.
Gyda cwta fis i fynd hyd nes bydd y terfyn cyflymder ddod lawr i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, dyluniad trawiadol o’r ddraig goch gan Noa Williams fydd yn tynnu sylw gyrwyr at y drefn newydd sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 17 Medi 2023.
Cafodd y disgybl Ysgol Ardudwy, Harlech, ei wahodd i’r Senedd yn ddiweddar, lle derbyniodd ei wobr a llun o’r cynllun terfynol.
Meddai Noa: “Ro’n i wrth fy modd bod fy nghynllun i wedi cael ei ddewis allan o’r holl ddyluniadau a gafodd eu cyflwyno. Dw i’n edrych ymlaen at ei weld ar arwyddion ledled Cymru.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, yr Aelod dros yr Amgylchedd ar Gabinet Cyngor Gwynedd: “Llongyfarchiadau mawr i Noa ar ei lwyddiant. Mae’n wych y bydd ei ddyluniad trawiadol o’r ddraig goch i’w weld ledled Cymru erbyn mis Medi, er mwyn atgoffa gyrwyr o’r cyfyngiadau newydd ar gyflymder.”
Bydd y terfynau cyflymder 30mya presennol yn cael eu gostwng i 20mya yn y rhan fwyaf o leoliadau yng Ngwynedd o 17 Medi 2023 ymlaen. Bydd rhai ffyrdd, lle bo cyfiawnhad dros wneud hynny, yn aros yn 30mya. Am fwy o wybodaeth am y newidiadau yng Ngwynedd, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/20mya ac am fwy o wybodaeth am y cynllun cenedlaethol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin