Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
Dyddiad: 02/10/2023
Mae sicrhau trefniadau casglu ailgylchu a gwastraff modern a pharhau i leihau’r gwastraff a gynhyrchir yng Ngwynedd yn un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor.
Fel rhan o’r gwaith yma ac i sicrhau gwerth gorau am arian, mae gwaith yn digwydd i adolygu a thrawsnewid y gwasanaethau mae’r Cyngor yn eu darparu i drigolion yn y maes yma.
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae torri lawr ar y gwastraff rydym yn ei gynhyrchu yn rhywbeth sy’n fyw ym meddwl llawer iawn o bobl Gwynedd. Fel Cyngor, rydym yn awyddus i gydweithio efo’n trigolion i sicrhau ein bod yn parhau i wella lefelau ailgylchu sirol.
“Mae gwaith yn digwydd i foderneiddio trefniadau’r gwasanaeth ond mae’n anorfod fod newid sylweddol o’r fath yn cymryd amser.
“Er hyn, rydym yn ymwybodol fod rhai trafferthion gyda chasgliadau mewn rhai ardaloedd ar adegau. Rwy’n deall fod hynny’n gallu bod yn rhwystredig ond mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gyfathrebu unrhyw oedi trwy gyfrifon cymdeithasol y Cyngor.
“Yn benodol yn ddiweddar, mae gweithredu diwydiannol gan undeb Unite wedi cael effaith ar gasgliadau mewn rhai rhannau o’r sir ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud gan y gweithlu i ddal i fyny gyda’r gwaith ers hynny.
“I gymhlethu’r sefyllfa, mae yna nifer o aelodau’r gweithlu wedi bod i ffwrdd oherwydd salwch yn yr wythnosau diwethaf, ac mae hynny wedi cael effaith ar allu’r gwasanaeth i gwblhau casgliadau mewn rhai ardaloedd.
“Ymddiheurwn yn ddiffuant am y problemau a’r effaith mae hynny wedi ei gael. Er y problemau diweddar, rydym yn hyderus fod pethau yn gwella ac mi fyddwn yn eich annog i wneud y mwyaf o’r casgliadau i waredu eitemau i’w hailgylchu, gwastraff bwyd, gardd ac ati.”
Yn y cyfamser, gall unrhyw aelod o’r cyhoedd adrodd am fethu casgliad ar wefan y Cyngor yma www.gwynedd.llyw.cymru/methucasgliad a gellir cyflwyno unrhyw ymholiad wrth ddefnyddio cyfrif hunanwasanaeth www.gwynedd.llyw.cymru/fynghyfrif, trwy apGwynedd, neu fel arall ffonio Galw Gwynedd ar 01766 771000.