Mynd i'r afael â phroblem anghynnes ar strydoedd Gwynedd
Dyddiad: 27/10/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi prynu peiriant arbenigol i lanhau gwm cnoi oddi ar strydoedd y sir, diolch i grant gwerth mwy na £20,000 drwy gynllun cenedlaethol i gael gwared o’r gwastraff sy’n melltithio strydoedd ein cymunedau ac i atal sbwriel yn y dyfodol.
Mae’r Chewing Gum Task Force yn dod â rhai o gynhyrchwyr gwm cnoi mwyaf y DU ynghyd mewn partneriaeth i gael gwared ar sbwriel gwm o strydoedd y DU a hefyd atal sbwriel yn y dyfodol. Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan elusen annibynnol Keep Britain Tidy.
Mae cais gan Gyngor Gwynedd am arian drwy’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus a bydd Timau Tacluso Ardal Ni yn defnyddio’r offer i ddod a gwedd newydd i balmentydd a strydoedd Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros wasanaethau Bwrdeistrefol: “Mae gwm cnoi sy’n cael ei daflu’n ddiofal yn felltith ar ein strydoedd. Mae’n anghynnes ac mae’n fater sy’n cael ei godi o hyd gan bobl y sir.
“Mae gwm cnoi yn gallu achosi staeniau hyll ar y stryd a’r palmant sy’n anodd iawn cael gwared arno felly Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Chewing Gum Task Force am roi arian grant i’n galluogi i brynu offer glanhau stem arbenigol sy’n cael gwared yn hawdd ar y staenio gwm cnoi anoddaf. Dwi’n siŵr bydd pobl Gwynedd yn edrych ymlaen i weld Timau Tacluso Ardal Ni yn gwneud y gwaith pwysig hyn o gwmpas y sir.
“Mae llawer ohonom, yn anffodus, wedi cael y profiad o gwm cnoi yn glynu yn ein hesgidiau neu ddillad, ac yn cael ei gario i fewn i’n cartrefi, i’r ysgol neu ein gweithle
“Felly mae atal pobl rhag taflu’r gwm yn ddi-hid yn y lle cyntaf yn allweddol os am daclo’r broblem. Dyna pam, fel rhan o’r prosiect hwn, mae’r Cyngor wedi bod yn gosod arwyddion codi ymwybyddiaeth, yn annog defnyddwyr i roi eu gwm wedi’i ddefnyddio yn y bin a helpu i gadw strydoedd Gwynedd yn lân ac yn daclus.”
Mae Timau Tacluso Ardal Ni yn gweithio ar draws holl gymunedau Gwynedd, yn mynd i’r afael a’r tasgau bychan ond pwysig er mwyn gwella’r amgylchedd leol. Os hoffech i un o’r timau ymweld a’ch cymuned chi, siaradwch gyda’ch Cynghorydd Sir lleol.
Nodiadau
Am fwy o wybodaeth am y prosiect Chweing Gum Task Force cenedlaethol, ewch i’r wefan: Chewing Gum Task Force | Keep Britain Tidy
Mae gwaith monitro a gwerthuso a wnaed gan Behaviour Change wedi dangos bod cyfradd is o sbwriel gwm yn dal i gael ei weld mewn ardaloedd a gafodd fudd o’r grant y llynedd, chwe mis ar ôl glanhau a gosod deunyddiau atal.