Ymgyrch recriwtio gofalwyr Cyngor Gwynedd ar y sgrîn fach
Dyddiad: 24/01/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi fideo fel rhan o ymgyrch i ddenu mwy o bobl i ystyried gyrfa o fewn y sector Gofal Cymdeithasol.
Nod y fideo ydi hyrwyddo’r cyfleon gwaith yn y maes gofal a tynnu sylw at yr amrywiaeth sydd gan y sector arbennig hwn i’w gynnig, yma yn ein milltir sgwâr.
Lansiwyd y fideo mewn digwyddiad arbennig ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog yn ddiweddar. Roedd y noson yn gyfle i ddiolch i’r holl unigolion gymerodd ran yn y ffilm fer am eu cyfraniadau amhrisiadwy – i’r fideo ac hefyd yn eu gwaith o ddydd i ddydd yn goflau am oedolion a phlant mwyaf bregus ein cymuned.
Mae’r fideo yn rhan o ymgyrch ehangach i ddenu diddordeb a recriwtio mwy o bobl i’r maes, sy’n cynnwys sesiynau galw heibio mewn cymunedau ardraws y sir, cydweithio efo asiantaethau sy’n helpu pobl ‘nôl i’r gwaith ac ymgyrchoedd hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau traddodiadol.
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Plant a Theuluoedd: “Fel ym mhob sector a sefydliad rydym yn wynebu heriau wrth recriwtio a chadw gweithwyr gofal, ar draws meysydd gofal cymdeithasol oedolion a phlant ac anabledd dysgu.
“Mae ein staff gofal presennol yn ymrwymedig a phroffesiynol, a rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith. Nid yn unig maent wedi dod trwy sefyllfaoedd dyrys yn ystod y cyfnod pandemig ond yn ogystal erbyn heddiw yn wynebu cynnydd yn y galw am wasanaethau oherwydd cyfuniad o sgil effeithiau hirdymor Covid-19 a’r argyfwng costau byw.
“Mae’n destun balchder inni fod ein gofalwyr yn darparu gwasanaeth i’n trigolion bregus a’u teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: “Fel Cyngor, rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch dros y misoedd diweddar i geisio denu mwy o ofalwyr i weithio i’r Cyngor.
“Rhai o’r buddion o weithio fel gofalwr sector gyhoeddus yng Ngwynedd ydi sicrwydd swydd; cyfleoedd i ddysgu a datblygu; dewis o waith llawn neu ran-amser; dewis o gytundebau shift neu oriau penodol; y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y maes boddhaol hwn i edrych ar y cyfleoedd swydd sydd ar gael ar hyn o bryd ar wefan y Cyngor neu gadw llygaid am un o’r digwyddiadau recriwtio sy’n cael eu cynnal ledled y sir.”
I wylio’r fideo, ewch i https://www.youtube.com/watch?v=pNsAgVlOuGc
Mae mwy o wybodaeth am gyfleon gwaith yn y maes gofal efo Cyngor Gwynedd ar y wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/GalwGofalwyr
Neu dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyngor Gwynedd
Facebook ,
Trydar ,
Instagram a chyfrif Swyddi Cyngor Gwynedd ar Facebook
(20+) Swyddi Cyngor Gwynedd Jobs | Facebook.