Cyfle i ddweud eich dweud am ddarpariaethau Teithio Llesol ar Ffordd Penrhos, Bangor
Dyddiad: 17/05/2023
Mae cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn ymgynghoriad gan y Cyngor sy’n casglu barn ar sut i’w gwneud yn haws, yn fwy diogel a chyfleus i bobl gerdded, beicio neu deithio ar olwynion ym Mangor.
Nod y cynllun hwn yw gwella seilwaith teithio llesol ar hyd Ffordd Penrhos rhwng Cylchfan Y Faenol a Gorsaf Drenau Bangor. Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd gyda chefnogaeth gan arbenigwyr WSP i wella Ffordd Penrhos i wneud yr ardal yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr.
Mae cynigion gwelliannau y cynllun yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
• Lonydd beicio newydd
• Llwybrau cyd-ddefnyddio newydd i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion
• Gwell llwybrau troed ar gyfer cerddwyr
• Gwell croesfannau i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr olwynion
• Nodweddion i helpu i arafu cyflymdra traffig a chreu llwybr mwy diogel i bawb
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Fel Cyngor, rydym yn awyddus i’w gwneud mor hwylus a diogel â phosib i bobl gerdded a beicio – boed hynny i gyrraedd y gwaith, siopa neu i hamddena.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd yn byw neu’n ymweld â’r ardal i gymryd y cyfle i roi eu barn ar y cynlluniau yma ym Mangor. Bydd y sylwadau a gyflwynir yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r dyluniadau ymhellach.”
I ddweud eich dweud ar y cynllun, gallwch lenwi’r holiadur ar-lein ar Ymgynghoriad darpariaethau Teithio Llesol ar Ffordd Penrhos/Penchwintan, Bangor (llyw.cymru) neu mae copïau papur ar gael drwy gysylltu â teithio-llesol@gwynedd.llyw.cymru neu Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd at 4 Mehefin.