Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth
Dyddiad: 24/05/2023
Mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth
Wrth i deuluoedd ar draws y wlad frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw parhaus, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i ddod yn ‘gyfeillgar i faethu’, yn y gobaith o fynd i’r afael â’r camsyniad na allwch barhau i weithio os byddwch yn dod yn ofalwr maeth.
Mae’r Pythefnos Gofal Maeth hwn (15-28 Mai), mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi eu cefnogaeth a'i gwneud yn haws i'w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, prif elusen faethu’r DU, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall ac mae eu polisi ‘cyfeillgar i faethu’ yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd drwy’r broses ymgeisio.
Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth, i ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, presenoldeb mewn paneli, i setlo plentyn newydd yn eu cartref ac i ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi.
Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth hanfodol ym mhenderfyniad cyflogai i ddod yn ofalwr maeth.
Dywedodd Marian Parry Hughes,Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:
"Mae estyn allan at gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu yn un o lawer o bethau rydyn ni'n eu gwneud i gefnogi ein gofalwyr maeth yng Ngwynedd. Mae Maethu Cymru Gwynedd wedi lansio’r Siarter Gofalwyr Maeth yn ddiweddar i ddangos sut rydym yn parchu rôl y gofalwr maeth, yn grymuso gofalwyr maeth wrth wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ac yn gwerthfawrogi eu gwybodaeth hanfodol am y plentyn fel rhan o’n tîm.”
Mae Manon a Deio yn gweithio’n llawn amser yn ogystal â bod yn ofalwyr maeth rhan amser yng Ngwynedd drwy gynnig gofal seibiant byr. “Rydym yn gweithio fel athrawon llawn amser ac yn maethu plant ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol er mwyn cynnig seibiant byr i rieni lleol a rhoi profiadau newydd i blant gydag anableddau,” meddai Manon. “Mae maethu yn hyblyg, does dim pwysau ac rydym yn cael dewis pa mor aml rydym yn cynnig y gwasanaeth. Mae’n fraint cael plant i aros efo ni ac i fod yn rhan o’n teulu. Mae helpu teuluoedd a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant lleol yn rhoi cymaint o foddhad i ni.”
Ychwanegodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:
“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru gamu i’r adwy.
“Rydyn ni’n gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun i’w cefnogi am y tymor hir, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell.
“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”
I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Ngwynedd ewch i: https://maethucymru.gwynedd.llyw.cymru/
I wybod mwy am ddod yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu yng Nghymru, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/gweithio-a-maethu/