Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyluniad cerflun ym Mangor ac i gwrdd gyda'r artist
Dyddiad: 31/03/2023
Mae Storiel yn ymgynghori gyda'r cyhoedd ar ddyluniad cerflun efydd i’w osod ger adeilad yr amgueddfa ac oriel ym Mangor.
Mae’r artist lleol Llyr Erddyn Davies wedi’i gomisiynu i ddylunio a chreu’r cerflun, gyda’r nod o dynnu sylw at y casgliad gwych o wrthrychau ac arteffactau sydd yn cael eu harddangos yn Storiel ac sydd yn adlewyrchu hanes cyfoethog y sir.
Roedd y briff gwreiddiol yn gofyn am rywbeth chwareus, felly mae Llyr wedi cyfeirio at lawer o’r hanes lleol trwy gyfres o hetiau a phenwisgoedd i gynrychioli cymunedau a straeon niferus Gwynedd, sydd yn cynnwys cap morwr, helmed filwrol, cap graddio a meitr Esgob.
Mae'r dyluniad wedi'i ddatblygu o weithdai cyhoeddus gyda thrigolion Bangor a'r cyffiniau. Bydd yna cyfle i gwrdd gyda Llyr i siarad am y cerflun ar 6 Ebrill yn Storiel, Bangor rhwng 11am – 1pm.
Mae Storiel wedi derbyn cyllid gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru er mwyn gallu ail-ddylunio eu gofod awyr agored ac i’w wneud yn fwy deniadol i ymwelwyr. Maent nawr yn awyddus i dderbyn adborth ar y dyluniad gan aelodau o’r cyhoedd ac mae holiadur ar-lein ar gael i wneud hynny: https://rb.gy/tc7b
Mae fideo byr o'r gwaith i'w weld yma: Storiel fdeo FINAL - YouTube