Cyngor Gwynedd yn gosod cyllideb ar gyfer 2023/24
Dyddiad: 03/03/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 sy’n adlewyrchu eu hymrwymiad i sicrhau fod gwasanaethau’n cyrraedd anghenion trigolion ar draws y wlad er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu cynghorau ar draws Gymru.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cynnydd o 7%, neu £14.6 miliwn, mewn grant y mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24. Fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r hyn sydd ei angen i gynnal gwasanaethau lleol ar y lefelau presennol, gan fod costau refeniw’r Cyngor wedi cynyddu £27 miliwn ers gosod cyllideb y llynedd.
Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 2 Mawrth penderfynodd aelodau'r Cyngor i bontio'r bwlch drwy weithredu £5.2 miliwn o arbedion effeithlonrwydd a chynyddu Treth Cyngor 4.95% ar gyfer 2023/24. Mae’r cynnydd hwn yn Nhreth Cyngor yn cyfateb i £1.45 ychwanegol yr wythnos neu £75.59 yn flynyddol ar gyfer eiddo Band D.
Cytunodd y Cynghorwyr i’r argymhelliad i osod cyllideb o £318miliwn ar gyfer 2023/24, gyda £228miliwn ohono yn dod o Grant y Llywodraeth a £90miliwn o’r Dreth Gyngor. Cytunodd yr Aelodau hefyd i sefydlu rhaglen gyfalaf o £67.7miliwn i ariannu cynlluniau megis gwella ysgolion a chynlluniau tai dros y 12 mis nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd:
“Mae penderfyniadau ariannol Llywodraeth San Steffan nôl yn yr hydref yn parhau i gael effaith ar lywodraeth leol gyda chynghorau ar draws y wlad yn ymgodymu ag ynni chwyddedig, nwyddau a chostau staffio.
“Tra bod Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa ariannol sefydlog o gymharu â’r rhan fwyaf o gynghorau diolch i gynllunio ariannol cadarn dros nifer o flynyddoedd, nid ydym yn imiwn i broblemau economaidd ar draws y DU ac mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud.
“Er ein bod wedi cadw’r cynnydd yn Nhreth Cyngor i’r lleiafswm, rydym yn ymwybodol iawn y gallai unrhyw gynnydd achosi anawsterau i aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.
“Hoffem annog unrhyw un sy’n cael trafferth cadw i fyny gyda’u taliadau Treth Cyngor neu filiau eraill i geisio cymorth, mae gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/cymorthcostaubyw.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod gwasanaethau’r Cyngor yn gweld ymchwydd yn y galw a’r costau. Er enghraifft, rydym yn gwario £32,000 yn fwy oherwydd cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal gan ein gwasanaethau cymdeithasol ac mae’r gwasanaethau digartrefedd yn costio £6 miliwn yn fwy nag yr oedd yr adeg hon y llynedd.
“Ers i faint yr her ariannol ddod i’r amlwg yn hydref 2022, mae arbedion ychwanegol o £6.4 miliwn wedi’u canfod ar draws holl adrannau Cyngor Gwynedd, a fydd yn cael eu gweithredu dros fwy nag un flwyddyn ariannol, ond gan ddechrau o’r mis nesaf ymlaen.
“Diolch byth, rydym hefyd wedi gallu dyrannu’r incwm ychwanegol o gynyddu Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi i fynd i’r afael â digartrefedd a bydd yr arbedion a nodwyd yn cael yr effaith leiaf bosibl ar wasanaethau rheng flaen.
“Efallai nad oes diwedd yn y golwg i’r pwysau ariannol sy’n wynebu Cyngor Gwynedd, mae pob un ohonom fel aelodau o’r Cyngor hwn yn benderfynol o barhau i warchod ein trigolion mwyaf bregus a gwasanaethau allweddol hyd eithaf ein gallu.”
Mae rhagolygon yn awgrymu y bydd pwysau pellach wrth i'r Cyngor anelu at osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio arian cyhoeddus yn gyfrifol ac yn effeithlon i sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau am arian.
Nodiadau:
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi canfod arbedion gwerth dros £33.5 miliwn ers 2015/16 drwy wahanol gynlluniau.