Gweledigaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd

Dyddiad: 08/03/2023
LLYFGRELL
Mae gwasanaeth cyhoeddus sydd wrth galon cymunedau ar draws Gwynedd wedi gosod ei weledigaeth fydd yn sylfaen ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

 

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadu Cynllun Llyfrgelloedd Byw 2023-28 gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd, fydd yn sicrhau fod llyfrgelloedd y sir yn llefydd byw lle gall pobl leol ddysgu, creu a chymdeithasu.

 

Mae symud efo’r oes a defnyddio pob cyfrwng sydd ar gael  yn greiddiol i’r gwasanaeth wrth gefnogi pobl i rannu gwybodaeth a syniadau. Yn ogystal, mae helpu pobl i leihau eu heffaith ar ein hamgylchedd bregus yn cael lle blaenllaw yng ngweithgareddau a gwasanaethau llyfrgelloedd Gwynedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Llyfrgelloedd:

 

“Mae’n un o ofynion fframwaith asesu Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru inni lunio adroddiad, ac mae’n bleser cael blas o’r llu o wasanaethau sy’n cael eu cynnig rhwng cloriau’r ddogfen.

 

“Mae’n wych gweld faint o fudd mae’r llyfrgelloedd yn ddod i’n cymdeithas gyda mwy na 29,000 o aelodau o Lyfrgelloedd Gwynedd dros y flwyddyn ddiwethaf, yn benthyca  mwy na 186,000 o lyfrau ac yn lawrlwytho bron i 60,000 o eitemau electroneg. Os oes angen tystiolaeth fod llyfrgelloedd yn llefydd cyffroes a defnyddiol yn yr oes fodern, mae’r ffigyrau hyn yn siarad cyfrolau.”

 

Rhai o uchafbwyntiau yr adroddiad ydi:

 

  • Gwasanaeth Cludo – Gall y gwasanaeth llyfrgelloedd ddod a llyfrau ac ati yn rhad ac am ddim i gartref pobl nad ydynt yn medru cyrraedd llyfrgell eu hunain, am ba bynnag reswm. Mae modd cofrestru a dewis eitemau ar-lein neu gysylltu a’ch llyfrgell trwy ffonio neu e-bost.

 

  • Datblygiad Llyfrgell y Pethau – Gall pobl fenthyg pethau defnyddiol ar gyfer y cartref a mwy, er enghraifft offer llaw, eitemau trydanol a theganau. Mae’n arbed costau ac yn llai niweidiol i’r amgylchedd na phrynu pethau newydd i’w defnyddio unwaith yn unig. y bydd Petha ar gael yn  Llyfrgelloedd Dyffryn Ogwen, Penygroes a Blaenau Ffestiniog.

 

  • Gwella Llyfrgell Penygroes – Diolch i grant o Gynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru bydd gofod Llyfrgell Penygroes yn cael ei wella a bydd Llyfrgell Dyffryn Ogwen yn cael gwelliannau yn cynnwys creu gardd lesiant newydd.

 

  • Creu hybiau VR yn Llyfrgelloedd Caernarfon a Penygroes – Sy’n cynnig profiadau technolegol gwahanol i ennyn ymateb a diddordeb defnyddwyr. 

 

  • Cynnig sesiynau cymorth digidol 1:1 ar gais – Cyfle i bobl gael cymorth gyda materion digidol wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell neu’r cartref ar gais gan Lyfrgellwyr

 

  • Darparu nwyddau mislif am ddim – Ar gael i drigolion Gwynedd o bob llyfrgell yn y sir fel modd o daclo tlodi mislif ac i godi ymwybyddiaeth o fuddiannau amgylcheddol cynnyrch y gellir ei ail-ddefnyddio.

 

  • Casgliadau Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl – Yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.

 

Am fwy o wybodaeth am lyfrgelloedd Gwynedd, gan gynnwys lleoliad ac oriau agor eich llyfrgell leol, ewch i’r wefan www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell Mae’r Cynllun Llyfrgelloedd Byw hefyd ar gael ar wefan y Cyngor: Llyfrgelloedd Llawn Bywyd - Cynllun Llyfrgell Gwynedd 2023-28.pdf (llyw.cymru)