Gwasanaeth Bws Sherpa'r Wyddfa ar restr fer gwobrau trafnidiaeth
Dyddiad: 19/09/2023
Mae un o wasanaethau bws mwyaf poblogaidd Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau trafnidiaeth ledled y Deyrnas Gyfunol.
Mae gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa ymhlith yr enwebai i ennill teitl Gwasanaeth Bws Gorau yng Ngwobrau Trafnidiaeth y Deyrnas Gyfunol. Mae Sherpa’r Wyddfa yn cael ei redeg gan bartneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Gwynedd, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Ers Ebrill 2022, mae Sherpa’r Wyddfa wedi ei drawsnewid ac mae’n cynnig gwasanaethau rheolaidd sy’n cysylltu mynyddoedd Eryri gyda’r môr, ac yn darparu gwasanaethau ychwanegol mewn mannau lle gwelir lefelau uchel o bobl yn ymweld â chyrchfannau poblogaidd yr ardal.
Mae’r ymateb i’r gwasanaeth ar ei newydd wedd wedi bod yn hynod gadarnhaol gyda chynnydd o 29% yn nifer y defnyddwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae llwyddiant Sherpa’r Wyddfa yn profi bod modd moderneiddio gwasanaethau trafnidiaeth i gyfarch anghenion defnyddwyr mewn cyfnod heriol. Mae’r gwasanaeth yn cyfuno siwrneiau sy’n galluogi trigolion Gwynedd i gwblhau teithiau dydd-i-ddydd pwysig, gydag adnodd teithio defnyddiol i bobl sy’n ymweld â'r ardal.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, bu golygfeydd dychrynllyd o bobl yn gyrru eu ceir ac yn parcio mewn mannau cwbl anaddas ger mynyddoedd Eryri.
“Ond, diolch i gynllunio gofalus, mae llawer mwy o bobl yn gwneud y dewis doeth ac yn teithio ar y Sherpa, sy’n cynnig rhwydwaith ardderchog o wasanaethau bws i'w cludo o amgylch Eryri mewn modd cynaliadwy.”
Mae Gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn rhedeg yn rheolaidd gan gysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa. Mae hyn yn galluogi pobl i barcio eu cerbydau mewn meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill sydd ar gael yn lleol.
Bydd Gwobrau Trafnidiaeth y Deyrnas Gyfunol yn cael eu cynnal yn Llundain ar 5 Hydref.
Am ragor o wybodaeth am Sherpa’r Wyddfa ewch i www.sherparwyddfa.cymru