Llwyddiant i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd yng ngwobrau cenedlaethol
Dyddiad: 08/12/2022
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd wedi ennill dwy wobr genedlaethol yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 a gafodd ei gynnal yn Abertawe eleni.
Fe enillodd Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd y wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ ac fe enillodd y digwyddiad Gŵyl Llesiant: Ieuenctid Gwynedd y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol.’
Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Cafodd Andrew ei enwebu am y Wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ gan bobl ifanc a ddaru nodi bod o wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar eu bywydau gan gynnwys eu helpu gyda’u hyder yn ogystal â gwneud iddynt deimlo’n ddiogel, hapus ac yn werthfawr. Mae Andrew yn hynod o weithgar yn ardal Dwyfor sydd yn cynnwys gweithio mewn dwy ysgol uwchradd a gwahanol gymunedau’r ardal - gydag effaith positif iawn yn lleol.
Fe dynnodd y beirniaid sylw at frwdfrydedd Andrew dros addysgu a dysgu yn ogystal â’i ymrwymiad a'i agwedd gadarnhaol.
Cafodd yr Ŵyl Llesiant 2022 ei gynnal dros gyfnod o wythnos ledled Gwynedd gyda’r nod i ddod â sefydliadau gyda’i gilydd er mwyn hybu iechyd a lles meddyliol a chorfforol ymhlith pobl ifanc y sir. Fe ddaru bobl ifanc chwarae rôl flaenllaw iawn wrth arwain y prosiect, gydag ymarferwyr gwaith ieuenctid yn eu cefnogi drwy gydol y cyfnod.
Nododd y beirniaid sut mae’r ŵyl wedi helpu i ddatblygu ac i gryfhau cysylltiadau ar gyfer y dyfodol, ac sydd wedi dangos sut y gellir asiantaethau a gwasanaethau cyd-weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella profiadau pobl ifanc.
Dywedodd Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid:
“Roedd hi’n fraint fawr cael fy enwebu gan y bobl ifanc ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi curo’n barod dim ond wrth gael fy enwebu, ond roedd ennill y wobr gyda’r bobl ifanc a enwebodd fi yna yn Abertawe yn ddigwyddiad bythgofiadwy i mi. Rwyf erioed wedi teimlo mor falch yn fy ngwaith ac mae’r wobr yma iddyn nhw hefyd oherwydd heb gael criw mor frwdfrydig a pharod i gymryd rhan yn y sesiynau dwi’n darparu, ni fysa dim o hyn yn bosib.
“Mae’n fraint enfawr i gael bod yn rhan o’i bywydau ac i obeithio datblygu ei sgiliau at y dyfodol. Dwi hefyd yn falch bod y bobl ifanc yma yn amlygu gwaith rydym ni fel Gweithiwr Ieuenctid yn ei wneud ar draws y sir.”
Meddai Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid sy’n gweithio gydag Andrew:
“Gwobr haeddiannol iawn i Weithiwr Ieuenctid ardderchog yma yng Ngwynedd. Gyda’i brofiad helaeth o waith ieuenctid, ac wrth gwrs ei gymwysterau, mae Andrew yn gweithio’n dawel ac yn ddiflino gyda brwdfrydedd er lles pobl ifanc.
“Mae ganddo ddawn arbennig iawn o helpu pobl ifanc adeiladu hyder, teimlo’n ddiogel a bod yn rhan bwysig o’u cymuned. Fel mae pobl ifanc wedi adrodd yn barod, mae Andrew yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar eu bywydau ac mae pawb yn hapus yn ei gwmni.
“Rwyf mor falch ohono ac rydym yn lwcus iawn fel gwasanaeth i gael Andrew gyda ni.’’
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd â chyfrifoldeb dros Blant a Phobl Ifanc:
“Llongyfarchiadau mawr i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd am eu llwyddiant yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni.
“Mae mor braf gweld cydnabyddiaeth am yr holl waith caled mae gweithwyr y Gwasanaeth fel Andrew yn ei gyflawni yma yng Ngwynedd a’r gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig i bobl ifanc y sir i wireddu cynlluniau penigamp fel y digwyddiad Gŵyl Llesiant. Hoffwn ddiolch hefyd i’n holl bartneriaid sydd wedi bod ynghlwm gyda’r gwaith da.
“Da iawn chi a dwi’n gobeithio ddaru bawb mwynhau’r noson wobrwyo yn Abertawe.”