Ymateb Cyngor Gwynedd i setliad ariannol llywodraeth leol
Dyddiad: 14/12/2022
Mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio fod toriadau gwasanaeth a chynyddu’r dreth Cyngor yn parhau i fod yn anorfod yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch setliad ariannol llywodraeth leol heddiw.
Bydd cynghorau Cymru yn derbyn cynnydd o 7.9% ar gyfartaledd ar gyfer 2023-24, ond cynnydd o 7% fydd Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn. Golygai hyn bydd yr awdurdod mewn sefyllfa ddyrys wrth geisio gosod cyllideb gytbwys a pharhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y mwyaf bregus mewn cymdeithas.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rydym wedi rhagweld ers cyllideb Llywodraeth San Steffan yn yr hydref y bydd pethau yn ddu arnom ac mae cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau y byddwn yn wynebu bwlch ariannol sylweddol yn 2023/24.
“Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos nad fydd pethau cynddrwg a’r hyn roeddem yn ei ragweld rai wythnosau yn ôl gan y byddwn yn derbyn mwy o arian y flwyddyn nesaf. Ond peidier neb a chael eu twyllo – mae’r setliad yma ymysg y gwaethaf mewn termau real i ni fel Cyngor erioed ei dderbyn.
“Mae costau popeth rydan ni’n eu hangen i ddarparu gwasanaethau – fel ynni, nwyddau a llafur – wedi chwyddo o 11% ers yr hydref, sef cost ychwanegol o oddeutu £22 miliwn. Ar yr un pryd mae’r galw am wasanaethau fel digartrefedd wedi saethu i fyny yn sgil yr argyfwng costau byw. Nid yw’r cynnydd o £14 miliwn yn y setliad yn ddigonol i gwrdd â hyn.
“Felly, does dim dewis ond i naill ai torri gwasanaethau, cynyddu’r dreth cyngor yn sylweddol neu daro balans cyfrifol rhwng y ddau.”
Ers i’r sefyllfa sy’n wynebu llywodraeth leol ddod yn amlwg yn yr hydref, mae swyddogion ar draws adrannau’r Cyngor wedi bod yn edrych ar arbedion a thoriadau posib. Nawr fod maint y setliad yn gyhoeddus, bydd yr opsiynau posib yn cael eu dadansoddi’n fuan yn y flwyddyn newydd bydd Cynghorwyr yn ystyried beth gaiff ei wireddu o Ebrill 2023 ymlaen.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i aelodau’r Cyngor osod cyllideb gytbwys yn ein cyfarfod ym mis Mawrth 2023 felly bydd penderfyniadau anodd iawn o’n blaenau dros yr wythnosau nesaf.
“Rydym wedi wynebu heriau ariannol yn y gorffennol ond dyma’r sefyllfa fwyaf dramatig inni ei weld gyda’r cyfuniad o gynnydd enfawr mewn costau a’r pwysau aruthrol ychwanegol yn sgil yr argyfwng costau byw wedi digwydd mewn cyfnod byr iawn.
“Diolch i gynllunio ariannol darbodus Cyngor Gwynedd dros y blynyddoedd mae ein sefyllfa yn gymharol gadarn a rydym daer dros amddiffyn ein trigolion mwyaf bregus a’n gwasanaethau allweddol.
“Er enghraifft, penderfynodd y Cyngor yn diweddar i glustnodi yr incwm ychwanegol o gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi i daclo digartrefedd. Golygai hyn fod arian newydd ar gael i dalu am tua hanner y £6 miliwn ychwanegol rydym ei angen i fynd i’r afael a digartrefedd – problem sy’n effeithio nifer gynyddol o bobl leol ym mhob cornel o’r sir. Oni bai am hyn, byddai’n rhaid i ni godi’r Dreth Cyngor i bawb o 4% pellach ar ben y cynnydd bydd rhaid i ni ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen i dalu am wasanaethau digartrefedd yn unig.”
“Ond wedi dweud hyn, does dim dwywaith na fydd modd osgoi penderfyniadau eithriadol o anodd ar draws pob maes gwasanaeth.”
Os ydych chi, neu rhywun rydych yn ei adnabod, yn pryderu am effeithiau’r argyfwng costau byw, mae gwybodaeth ar wefan y Cyngor am gefnogaeth a chymorth sydd ar gael. Ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw