Cynlluniau tai Cyngor Gwynedd yn prysur ennill tir
Dyddiad: 06/12/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi prynu tir yng Nghaernarfon, Llanystumdwy, a Mynytho i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at dai o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella ansawdd eu bywyd.
Mae’r Cyngor wedi prynu’r tiroedd yn Llanystumdwy a Mynytho dros y misoedd diwethaf, gyda’r bwriad o adeiladu tai yno yn rhan o raglen adeiladu Tŷ Gwynedd. Mae rhain yn ychwanegol i gynlluniau Tŷ Gwynedd sydd hefyd ar y gweill ym Mangor, Llanberis a Morfa Nefyn gyda’r amcan o adeiladu 90 o gartrefi o’r fath erbyn 2027.
Os bydd y ceisiadau cynllunio yn llwyddiannus, bydd y tai newydd ar gael naill ai i’w rhentu ar rent fforddiadwy neu i’w prynu trwy gynllun rhannu ecwiti. Eu bwriad yw i ddarparu cartrefi i bobl leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sy’n annhebygol o fod yn gymwys am dai cymdeithasol.
Bydd holl dai Tŷ Gwynedd yn glynu at egwyddorion dylunio penodol, sef eu bod yn:
- Fforddiadwy
- Addasadwy
- Cynaliadwy
- Ynni-effeithiol
- Gwella llesiant y trigolion sy’n byw ynddynt.
Yn ogystal, cwblhawyd pryniant arall o lecyn o dir ger Frondeg yng Nghaernarfon yn ddiweddar, yn agos i dir arall sydd eisoes ym mherchnogaeth y Cyngor, ac mae trafodaethau ynglŷn â’i ddatblygiad yn gwneud cynnydd da.
Mae’r prosiectau hyn i gyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn gan Gyngor Gwynedd, i gyfarch prinder tai yn y Sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“‘Mae'n hysbys nad oes digon o gartrefi addas i bobl Gwynedd yn ein Sir ar hyn o bryd, ac mae'r angen yn dal i fod yn uwch na'r cyflenwad. Mae gennym dros 5000 o unigolion ar y gofrestr tai cymdeithasol ac rydym yn wynebu argyfwng digartrefedd lle mae'r Cyngor yn gorfod lleoli'r nifer uchaf erioed o bobl mewn llety brys. Rydan ni fel Cyngor yn gwneud cymaint ag y gallwn i fynd i'r afael â'r argyfwng yma, trwy brynu eiddo preifat a chynnig cymhellion i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.
“‘Ochr yn ochr â chynlluniau i ddod â thai yn ôl i ddwylo trigolion Gwynedd, mae’n hollbwysig bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, a phrynu tir datblygu yw’r cam cyntaf i wireddu hynny. Bydd y datblygiadau yma’n angenrheidiol i ddarparu'r hawl dynol sylfaenol o gartrefi diogel ac addas i bobl y Sir.”'
Dywedodd Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Fel adran, rydym yn ymroddedig i adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl Gwynedd, ac mae’n destun balchder mawr imi weld yr elfennau allweddol hyn o'n Cynllun Gweithredu Tai yn symud ymlaen yn dda.
“Os oes gennych ddiddordeb mewn gwerthu tir neu eiddo i'r Cyngor plîs cysylltwch â datblygutai@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01766 771000. Diolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â'r pryniannau diweddar.
“Y cam cyntaf i bobl sydd angen cartref fforddiadwy canolraddol yw gwirio os ydynt yn gymwys i ymgeisio gyda Tai Teg, sy'n gweinyddu’r gofrestr ar gyfer y math yma o dai ar ran Cyngor Gwynedd. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/tai ”