Datblygu rhwydwaith o dros gant o bwyntiau gwefru cyhoeddus ar draws Gwynedd
Dyddiad: 05/12/2023
Rydym yn datblygu rhwydwaith o dros gant o bwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau trydan ar safleoedd ar draws Gwynedd.
Hyd yma, mae yna fannau gwefru yn weithredol yn y lleoliadau canlynol (trwy ddefnydd ap yn unig ar hyn o bryd):
Intec ar Barc Menai, Bangor, LL57 4FG (4 peiriant 7kW)
Canolfan Byw’n Iach Penllyn, Y Bala, LL23 7YE (4 peiriant 7kW)
Canolfan Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau, LL40 1LH (4 peiriant 7kW)
Canolfan Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli, LL53 5PF (4 peiriant 7kW)
Yn ogystal, mae pwyntiau gwefru 50kW hefyd yn weithredol trwy gydweithrediad gyda Thrafnidiaeth Cymru ar safleoedd y Cyngor ym:
Maes Parcio’r Grîn, Y Bala, LL23 7NG (1 peiriant);
Maes Parcio ger Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog, LL49 9NU (2 beiriant);
Maes Parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES (2 beiriant);
Maes Parcio’r Marian, Dolgellau, LL40 1DL (2 beiriant).
Rydym hefyd yn gweithio ar gyfer gosod rhagor o fannau gwefru mewn lleoliadau yn ardaloedd Aberdyfi, Abermaw, Bangor, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Llanberis, Penygroes, Porthmadog, Pwllheli a Thywyn dros y misoedd nesaf.
Mae rhai o’r mannau gwefru hyn wedi eu datblygu diolch i gydweithio gyda Trafnidiaeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/gwefru