Dathlu gofalwyr maeth yng nghyfarfod blynyddol Maethu Cymru eleni
Dyddiad: 21/12/2023
Yn ddiweddar fe gynhaliwyd Maethu Cymru Gwynedd ei gyfarfod blynyddol o ofalwyr maeth yng Nghlwb Pêl Droed Porthmadog a oedd yn gyfle i ofalwyr maeth a staff i sgwrsio a rhannu profiadau gyda’i gilydd.
Roedd yn gyfle hefyd i ddathlu ac i ddiolch i ofalwyr maeth am eu gwasanaeth hir a’u cyfraniad i ofal maeth yng Ngwynedd, gyda rhoddion o werthfawrogiad yn cael eu cyflwyno gan y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Plant a Theuluoedd a Marian Parry Hughes, Pennaeth Adran Gwasanaethau Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd.
Fel rhan o’r diwrnod, fe ymunodd gwasanaethau eraill i rannu gwybodaeth a diweddariadau perthnasol gan gynnwys Tîm Nyrsio plant sy’n derbyn gofal, Gwasanaeth 16+ gyda gwestai arbennig Aneesa Khan, Trobwynt, Y Rhwydwaith Maethu, Action for Children, Derwen a thîm Amser Ni.
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones:
“Roedd yn fraint cael bod yn bresennol yn y Diwrnod Gwerthfawrogiad Maethu Cymru Gwynedd i gael diolch o galon i’n gofalwyr maeth ac i ddod i’w hadnabod yn well hefyd. Maent yn gymwynasgar, cynnes a chroesawus ac mae’n dyled iddynt yn fawr.”
Mae Maethu Cymru Gwynedd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol dielw Cymru sy’n cyfuno eu hymdrechion i geisio cynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth. Gyda dros 170 o blant mewn gofal maeth yng Ngwynedd (ar 31 Rhagfyr 2022), amcangyfrifir bod angen o leiaf 12 gofalwr maeth ychwanegol i gwrdd â'r galw cynyddol.
I ddarganfod mwy am faethu yng Ngwynedd, ewch i: https://maethucymru.gwynedd.llyw.cymru/