Gwelliannau teithio llesol gwerth £1.2 miliwn ar Ffordd Penrhos, Bangor
Dyddiad: 22/12/2023
Mae gwaith wedi cychwyn ar welliannau sylweddol fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio yn ddiogel yn ardal Ffordd Penrhos ger Bangor.
Wedi sicrhau £1.2 miliwn o gefnogaeth Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu’r cynlluniau. Mae’r gwaith presennol yn rhan o wedd gyntaf o welliannau o ardal Coed Mawr hyd Coed y Maes ym Mhenrhosgarnedd.
Mae Ffordd Penrhos yn cysylltu ardaloedd preswyl ag ysgolion, canolfannau teithio, yr ysbyty, ac ardaloedd cyflogaeth. Nod y gwaith fydd darparu dull diogel o deithio wrth i bobl deithio i’r ysgol, gwaith a hamdden yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Rydw i’n hynod falch o weld y gwaith ar welliannau teithio llesol yn ardal Ffordd Penrhos ym Mangor yn cychwyn go-iawn.
“Mae’r ardal yma yn gallu bod yn brysur iawn o ran traffig, ac mae awydd gwirioneddol wedi bod gan drigolion lleol ers blynyddoedd i wella’r sefyllfa a’i gwneud yn fwy hwylus i bobl yr ardal allu cerdded a beicio yn ddiogel.
“Bydd y gwelliannau sy’n cael eu datblygu yn ei gwneud yn haws i blant a rhieni gyrraedd yr ysgol a meithrinfa yn saff ar droed neu feic a thorri lawr ar deithiau ceir, sy’n amlwg hefyd o fudd i’r amgylchedd ac yn torri lawr ar allyriadau carbon.
“Tra’n derbyn y bydd y gwaith dros dro yn achosi rhywfaint o anhwylustod yn y tymor byr, rwy’n hyderus y bydd pobl yr ardal yn gweld manteision y gwelliannau yn fuan iawn.”
Meddai’r Cynghorydd Menna Baines, sy’n cynrychioli ardal Y Faenol ar Gyngor Gwynedd: “Fel rhywun sydd wedi byw ar Ffordd Penrhos ers dros ugain mlynedd dwi wedi gweld y traffig yn cynyddu’n gyson ac mae ar ei drymaf adeg mynd â phlant i’r ysgol a’u nôl nhw.
“Rydw i’n croesawu’r cynllun yma fel cyfraniad tuag at leihau’r ddibyniaeth ar geir yn lleol ac mae’r croesfannau sy’n rhan ohono’n mynd i fod o gymorth hefyd gan fod pobl wedi bod yn galw am fwy o lefydd diogel i groesi ers talwm. Mae beicio a cherdded hefyd yn ymarfer corff gwych hefyd wrth gwrs.”
Nododd y Cynghorydd Elin Walker Jones, sy’n cynrychioli Glyder ar y Cyngor: “Rydym yn falch iawn o’r datblygiad yn lleol ac yn edrych mlaen i weld y llwybr teithio llesol yn hwyluso teithio i’r ysgol drwy gerdded neu seiclo.
“Bydd hyn yn lleihau’r traffig a’i sgil-effeithiau andwyol i iechyd plant. Mae cerdded neu seiclo yn hytrach na theithio mewn cerbyd yn llesol i iechyd corfforol a meddyliol ni gyd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Anthony Roberts, aelod ward Dewi ar Gyngor Gwynedd: “Ar ôl yr aflonyddwch cychwynnol o wneud y gwaith, dwi’n hyderus y bydd y cynllun yn gyfle gwych i bobl leol fod yn fwy egnïol ac ymgysylltu â’i gilydd a lleihau’r defnydd o’u ceir.”
Fel rhan o’r gwelliannau sy’n cael eu cynnal yn y wedd gyntaf rhwng Coed Mawr a Choed y Maes bydd y droedffordd bresennol yn cael ei addasu i’w wneud yn addas i gerddwyr a beicwyr, yn ogystal bydd mannau croesi i gerddwyr yn cael eu darparu i helpu plant groesi’r ffordd.
Dyma wedd gyntaf y gwelliannau, a gobeithir y bydd cefnogaeth ariannol pellach yn galluogi Cyngor Gwynedd i barhau gyda gwaith pellach yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae’r gwaith ar y ddaear yn cael ei gynnal gan gwmni Griffiths, ac mae manylion am y cynllun yn cael ei ddiweddaru ar-lein yma: Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd – Griffiths Community a gwybodaeth hefyd ar wefan YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd: Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd | YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy