Nid oes esgus dros beidio codi baw eich ci
Dyddiad: 08/12/2023
Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa perchnogion cŵn yn y sir o’u cyfrifoldeb i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes mewn mannau cyhoeddus.
Gall pobl sydd ddim yn bagio a binio’r baw mewn ffordd gyfrifol – er enghraifft defnyddio bin cyhoeddus neu eu bin olwyn eu hunain gartref – dderbyn cosb ariannol neu hyd yn oed cael eu herlyn gan y llysoedd.
Er fod staff Cyngor Gwynedd yn glanhau strydoedd trefi, pentrefi a stadau’r sir, cyfrifoldeb perchnogion ydi codi baw eu cŵn ac mae peidio gwneud yn drosedd amgylcheddol sy’n achosi niwsans i bawb arall wrth gerdded o gwmpas y stryd, mynd i lan y môr neu lefydd cyhoeddus eraill.
Mewn achosion prin, mae dod i gyswllt â baw ci yn gallu arwain at salwch difrifol fel toxocariasis sy’n gallu achosi trafferthion anadlu a dallineb.
Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Wasanaethau Stryd y Cyngor: “Mae baw ci ar balmentydd a mewn caeau chwarae yn fater sy’n cael ei godi gan y cyhoedd o hyd ac o hyd. Mae’n ofnadwy pan mae rhywun yn sefyll ynddo ac mae’n cael ei gario i fewn i’w cartref, i’r ysgol neu i’r siop ar esgidiau pobl. Dwi’n clywed hefyd gan rieni sydd wedi cael baw ci ar olwynion coets babi neu ar olwynion sgwters plant bach.
“Yn anffodus, rydym yn tueddu i weld y broblem yn gwaethygu ar ddechrau’r gaeaf. Ond mae fy neges yn glir i berchnogion cŵn – dydi’r ffaith ei bod yn dywyll neu’n lawog ddim yn esgus dros beidio stopio am funud tra rydych yn mynd am dro i bigo baw eich ci i fyny.
“Mae mwy o bobl nag erioed efo cŵn yn anifeiliaid anwes erbyn hyn a rydym yn hynod ddiolchgar i’r rhan helaethaf sy’n cymryd eu cyfrifoldeb i’w cymuned o ddifri drwy gario bagiau bob tro maent yn mynd am dro a chodi baw eu ci. Ond mae’r lleiafrif bychan yn achosi problemau i bawb. Does dim esgus, yn enwedig gan fod bagiau rhad ac am ddim ar gael gan y Cyngor o’r dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli) ac o bob Llyfrgell yn y sir.”
Yn unol a Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014,mae gan Gyngor Gwynedd hawl i erlyn pobl sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus. Gall hyn arwain at gosb yn y fan a’r lle o £100 neu £1,000 os ydi’r achos yn cael ei ddwyn gerbron llys a’i gael yn euog.
Ychwanegodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones: “Os oes gan aelod o’r cyhoedd dystiolaeth fod rhywun yn caniatáu i’w ci faeddu mewn man cyhoeddus heb ymdrech i glirio’r baw ar eu holau, mae modd iddynt gysylltu a’r Cyngor fel gall ein swyddogion ymchwilio’r mater. Bydd galwadau gan y cyhoedd yn cael eu trin yn gwbwl gyfrinachol.
“Yn ddiweddar iawn, mae cosbau ariannol wedi eu rhoi i aelodau o’r cyhoedd am eu hymddygiad di-hid a hunanol.
“Os ydi problem baw ci yn bryder yn eich cymuned chi, beth am helpu i ledaenu’r neges am bwysigrwydd perchnogaeth cŵn cyfrifol drwy rannu’r negeseuon am y pwnc rydym yn eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor.”
Mae gwybodaeth bellach ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/cwn a gellir adrodd problem baw ci ar www.gwynedd.llyw.cymru/BawCi neu drwy apGwynedd.
Nodiadau
Mae toxocarasis yn salwch anghyffredin ond gellir lleihau’r risg o’i ddal, er enghraifft trwy olchi eich dwylo yn aml a thrwyadl a gwneud yn siŵr fod eich anifeiliaid anwes yn cael eu trin rhag llyngyr yn rheolaidd. Mae mwy o wybodaeth am yr haint ar wefan y Gwasanaeth Iechyd: www.nhs.uk/conditions/toxocariasis/