Ymgynghoriad Cyfathrebu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 13/11/2023
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd eisiau clywed gan ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir ar beth yw eu barn am drefniadau cyfathrebu presennol y gwasanaethau a’r ffyrdd gorau o rannu gwybodaeth i’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd:
“Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd rwymedigaeth statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion. Mae’r gwasanaethau yn grymuso trigolion i reoli eu bywydau eu hunain, hybu annibyniaeth, cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a'u cyfranogiad mewn cymdeithas - hyn oll wrth helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach.
“Mae cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir yn chwarae rhan fawr yn y gwaith yma. Mae’n holl bwysig deall felly beth yw barn y cyhoedd ar ein trefniadau cyfathrebu presennol.”
Meddai’r Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd:
“Mae deall beth yw’r ffyrdd gorau a mwyaf addas i Wasanaethau Cymdeithasol y Cyngor cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda’r cyhoedd yn bwysig iawn.
“Felly rwyf yn annog pawb sydd gyda diddordeb yn y maes i rannu eu barn drwy lenwi’r holiadur sydd ar gael ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu ar ffurf papur, ac i wneud hynny erbyn 22 Rhagfyr 2023.”
Gall pobl leisio eu barn drwy:
Bydd yr holiadur yn cau ar 22 Rhagfyr 2023.